Newyddion

Traveline Cymru News and Updates

Gorsaf Fysiau Caerdydd yn cau ddydd Sadwrn 1 Awst 2015

14 Gorffennaf 2015

Ar ôl i’r bws olaf ymadael ddydd Sadwrn 1 Awst bydd Gorsaf Fysiau Caerdydd Canolog yn cau er mwyn i’r gyfnewidfa fysiau newydd gael ei hadeiladu.

Bydd y bysiau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio’r orsaf a’r arosfannau ar ochr ddeheuol Wood Street yn awr yn defnyddio arosfannau gerllaw.

Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi taflen sy’n rhestru’r arosfannau hynny a’u lleoliad, yn ogystal â’r gwasanaethau y bydd y newid hwn yn effeithio arnynt a manylion ynghylch ble y gallwch ddal y bysiau ar ôl i’r orsaf gau. Gallwch weld y daflen yn y fan hon.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi map sy’n dangos y newidiadau i arosfannau bysiau a’r gwasanaethau yr effeithir arnynt, a gallwch weld y map yn y fan hon.

Bydd y trefniadau hyn yn parhau nes y bydd yr orsaf fysiau newydd yn agor. Disgwylir i hynny ddigwydd ym mis Rhagfyr 2017.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon