Newyddion

Environment Centre Swansea

Taith feiciau elusennol o Baris i Abertawe i godi arian i Ganolfan yr Amgylchedd

15 Gorffennaf 2015

Ddydd Sadwrn 1 Awst bydd chwech o gefnogwyr brwd Canolfan yr Amgylchedd, sef elusen leol yn Abertawe, yn mynd ar daith feiciau o Baris i Abertawe.

Gan ddefnyddio ffyrdd bach a llwybrau beiciau’n unig, mae’r grŵp yn gobeithio beicio’r 350 o filltiroedd o Baris i Abertawe mewn llai na 7 diwrnod, gan gyrraedd yn ôl mewn pryd ar gyfer seremoni agoriadol Gŵyl Feicio Gŵyr yn Blackpill.

Mae’r Ganolfan yn elusen leol, a gallwch ddangos eich cefnogaeth yn hawdd drwy gyfrannu ar y dudalen Rhoddion ar wefan Canolfan yr Amgylchedd yn y fan hon. Bydd unrhyw roddion yn helpu i ddarparu cyllid hanfodol ar gyfer y wybodaeth, yr addysg a’r gweithgareddau amgylcheddol a gynigir gan y Ganolfan.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon