Newyddion

Source WalesOnline Arriva Trains Wales Image

Streic gan weithwyr Trenau Arriva Cymru ddydd Llun 4 Ionawr 2016 – DIM TRENAU

31 Rhagfyr 2015

Mae Trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau y bydd yr holl wasanaethau trên a gaiff eu rhedeg gan y cwmni’n cael eu canslo ar 4 Ionawr oherwydd gweithredu diwydiannol.

Mae helynt wedi codi rhwng Trenau Arriva Cymru ac undebau’r gyrwyr ynghylch telerau ac amodau.

Yn ôl yr undeb rheilffordd Aslef, bydd ei aelodau’n mynd ar streic ar 4 Ionawr, sef y diwrnod cyntaf yn ôl yn y gwaith i lawer o deithwyr ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Dywedodd arweinwyr yr undeb fod gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol, a ddechreuodd yn gynharach yr wythnos hon, eisoes yn cael effaith a gwnaethant honni bod Trenau Arriva Cymru, fel llawer o weithredwyr trenau eraill, yn dibynnu ar yrwyr i weithio oriau ychwanegol.

Diystyrodd yr undeb honiadau’r cwmni bod cynnig newydd wedi’i gyflwyno.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon