Newyddion

2015

31 Rha

Streic gan weithwyr Trenau Arriva Cymru ddydd Llun 4 Ionawr 2016 – DIM TRENAU

Mae Trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau y bydd yr holl wasanaethau trên a gaiff eu rhedeg gan y cwmni’n cael eu canslo ar 4 Ionawr oherwydd gweithredu diwydiannol.
Rhagor o wybodaeth
06 Tac

Bws Caerdydd yn cynnig teithiau’n rhad ac am ddim i aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ar Sul y Cofio

I nodi Sul y Cofio, mae Bws Caerdydd yn cynnig teithiau’n rhad ac am ddim i’r sawl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Rhagor o wybodaeth
26 Hyd

Beicio yng Nghaerdydd yn cynyddu 25%... ac mae pobl am wneud mwy!

Mae beicio’n ffynnu ym mhrifddinas Cymru, wrth i nifer y teithiau ar feic gynyddu dros 25% mewn un flwyddyn yn unig yn ôl adroddiad newydd arloesol gan yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, Sustrans, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
22 Hyd

Wedi dechrau’r brifysgol? Rydym yma i’ch helpu wrth i chi fynd i bob man fel myfyriwr!

Gall dechrau’r brifysgol fod yn brofiad brawychus, yn enwedig os ydych wedi symud i dref neu ddinas newydd.
Rhagor o wybodaeth
21 Hyd

Dweud eich dweud am rwydweithiau cerdded a beicio Caerdydd: ymgynghori ynghylch y Map Llwybrau Presennol

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd.
Rhagor o wybodaeth
14 Hyd

First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd

Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd. Bydd tîm First Cymru gan gynnwys Justin Davies, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn lansio’r Siarter yng Ngorsaf Fysiau Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Iau 15 Hydref. 
Rhagor o wybodaeth
07 Hyd

Trenau Arriva Cymru – y gweithredwr cyntaf yn y DU i dreialu peiriannau tocynnau sy’n defnyddio cyswllt fideo

Trenau Arriva yw’r gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i dreialu peiriannau tocynnau sy’n defnyddio cyswllt fideo â swyddfa docynnau lle ceir staff.
Rhagor o wybodaeth
02 Med

Sustrans Cymru, Swyddog Cyfathrebu

Bydd y rôl gyffrous hon yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg a Saesneg a fydd yn arwain gwaith cyfathrebu o ddydd i ddydd gyda’r cyhoedd ar ran Sustrans yng Nghymru, gyda’r nod o godi proffil yr elusen gyda’i chynulleidfaoedd dylanwadu allweddol a’i defnyddwyr. 
Rhagor o wybodaeth
25 Aws

Gyrrwr bysiau’n ennill gwobr ‘Diolch Drive’ am wasanaethau i gwsmeriaid

Mae First Cymru a Bus Users Cymru yn dathlu llwyddiant y ddau a ddaeth i’r brig gan ennill gwobr ‘Diolch Drive’ am wasanaethau i gwsmeriaid, dan gynllun a drefnwyd gan First Cymru.
Rhagor o wybodaeth
13 Aws

Streic ar y rheilffyrdd yn effeithio ar wasanaethau trên de Cymru dros Ŵyl y Banc mis Awst

Oherwydd yr anghydfod ag undeb rheilffyrdd yr RMT, bydd streiciau rheilffyrdd yn cael eu cynnal ddydd Sul 23 Awst a rhwng dydd Sadwrn 29 Awst a 31 Awst, sef dydd Llun Gŵyl y Banc, a byddant yn effeithio’n sylweddol ar wasanaethau First Great Western.
Rhagor o wybodaeth
20 Gor

Rhybudd gan Trenau Arriva Cymru ynghylch dirwy am beidio â phrynu tocyn

Mae rheolwyr Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio y gallai teithwyr sy’n camu ar drenau heb docyn wynebu dirwy o £70 o hyn ymlaen os na fyddant yn ceisio chwilio am aelod o staff er mwyn prynu tocyn.
Rhagor o wybodaeth
17 Gor

Tocyn Dwyffordd Rhatach Traws Cymru ar gyfer y Penwythnos

Mae tocyn newydd ar gael yn awr ar gyfer y sawl sy’n teithio ar wasanaethau T2, T3 a T5 Traws Cymru, sef Tocyn Dwyffordd Rhatach ar gyfer y Penwythnos.
Rhagor o wybodaeth
15 Gor

Taith feiciau elusennol o Baris i Abertawe i godi arian i Ganolfan yr Amgylchedd

Ddydd Sadwrn 1 Awst bydd chwech o gefnogwyr brwd Canolfan yr Amgylchedd, sef elusen leol yn Abertawe, yn mynd ar daith feiciau o Baris i Abertawe.
Rhagor o wybodaeth
14 Gor

Gorsaf Fysiau Caerdydd yn cau ddydd Sadwrn 1 Awst 2015

Ar ôl i’r bws olaf ymadael ddydd Sadwrn 1 Awst bydd Gorsaf Fysiau Caerdydd Canolog yn cau er mwyn i’r gyfnewidfa fysiau newydd gael ei hadeiladu.
Rhagor o wybodaeth
06 Gor

Bws Peris wedi gorffen darparu gwasanaethau bws

Sylwch nad yw Bws Peris yn darparu gwasanaethau bws 88/89 ers dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2015.
Rhagor o wybodaeth
23 Meh

Dim trenau’n teithio rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd y penwythnos hwn

Gan fod Network Rail yn gwneud gwaith hanfodol i wella signalau, bydd y rheilffyrdd rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd ar gau drwy’r dydd ddydd Sadwrn 27 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin.
Rhagor o wybodaeth
23 Meh

Bay Trans yn cyflwyno gwefan newydd ar gyfer teithio o gwmpas Bae Abertawe

Mae Bay Trans wedi cyflwyno gwefan newydd ar gyfer dod o hyd i wybodaeth yn sydyn am ffyrdd o gyrraedd atyniadau yn ardal Bae Abertawe.
Rhagor o wybodaeth
04 Meh

Diolch am eich amynedd...

Hoffem ddiolch o galon i bob un o’n cwsmeriaid sydd wedi bod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn.
Rhagor o wybodaeth
02 Meh

Gwasanaeth Rhif 91 Bws Caerdydd ar ddydd Sul i Bier Penarth

Mae Bws Caerdydd wedi cyflwyno ei wasanaeth arbennig ar ddydd Sul i Bier Penarth erbyn hyn.
Rhagor o wybodaeth
16 Ebr

Gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y sawl sy’n teithio i’r gwaith ar reilffordd Calon Cymru

Mae’r sawl sy’n teithio i’r gwaith bob bore ar reilffordd Calon Cymru, sy’n rhedeg drwy Rydaman a Dyffryn Tywi, wedi cael rhywfaint o newyddion da oherwydd bydd gwasanaethau ychwanegol ar gael yn y boreau.
Rhagor o wybodaeth