Newyddion

Sian Musk Operation Manager PTI Cymru

PTI Cymru yn penodi Rheolwr Gweithrediadau

11 Chwefror 2016

Mae PTI Cymru, y sefydliad ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi Sian Musk i swydd newydd, sef swydd Rheolwr Gweithrediadau.

Yn flaenorol bu Sian, sy’n 36 oed ac sy’n hanu o Benarth, yn gweithio am ddeng mlynedd i In Retirement Services (IRS) ac yn gweithio am dros bum mlynedd fel arweinydd tîm gwneud penderfyniadau yn Gocompare.com.

Mae ganddi gymhwyster rheoli prosiectau mewn amgylcheddau a reolir (PRINCE2), sef dull o reoli prosiectau’n effeithiol, sy’n seiliedig ar brosesau ac sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan Lywodraeth y DU.

Yn ei swydd newydd bydd Sian yn rheoli prosesau caffael y busnes, ei gontractau, ei brosesau rheoli risg a’r modd y mae’n cydymffurfio â gofynion, wrth i’r busnes geisio cryfhau ei systemau a’i brosesau mewnol er mwyn symud i feysydd gwaith gwahanol.

Mae PTI Cymru Ltd yn gwmni a gafodd ei ffurfio gan weithredwyr bysiau mwyaf Cymru o ganlyniad i Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol i ddarparu gwybodaeth ddiduedd am bob math o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, dan yr enw brand Traveline Cymru.

Mae wedi arallgyfeirio ers hynny, ac yn ogystal â Traveline Cymru mae’r cwmni erbyn hyn yn rhedeg Contact Centre Cymru, sef canolfan alwadau ddwyieithog ym Mhenrhyndeudraeth, ac yn rheoli Fyngherdynteithio, sef cynllun teithio rhatach a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n galluogi pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed yng Nghymru i gael ⅓ oddi ar bris eu tocynnau bws.

Meddai Sian: “Cafodd PTI Cymru ei argymell fel lle gwych i weithio ynddo, ac roeddwn yn chwilio am gyfle i newid cyfeiriad. Mae hwn yn ddiwydiant hollol wahanol i’r meysydd rwyf wedi gweithio ynddynt o’r blaen, felly bydd yn her newydd ac yn gyfle i fi gael profiadau newydd a meithrin sgiliau newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.

“Byddaf yn ceisio ychwanegu gwerth at PTI Cymru drwy’r ddealltwriaeth a’r gallu rwyf wedi’u meithrin yn sgîl fy mhrofiad blaenorol o weithio ar brosiectau proffil uchel, prosesau caffael a phrosesau rheoli mewn brand sy’n enwog yn genedlaethol ac sy’n werth miliynau o bunnoedd.

“Mae gen i lawer o brofiad o arwain amrywiaeth o brosiectau a gweithio arnynt, ond nid oes gen i lawer o brofiad o’u rheoli’n ffurfiol, ac rwyf wedi bod yn awyddus i wneud hynny. Enillais fy nghymhwyster PRINCE2 yn ôl ym mis Gorffennaf wrth geisio cyrraedd y nod hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod fy nghydweithwyr a’r busnes ac at ddechrau ar fy mhrosiect cyntaf.”

Meddai Graham Walter, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru: “Mae gennym dîm gwych yma ac rydym yn falch iawn o groesawu Sian iddo. Byddwn yn arallgyfeirio yn ystod y blynyddoedd nesaf, felly gwnaethom benderfynu y byddai creu swydd Rheolwr Gweithrediadau yn fuddiol iawn er mwyn symleiddio ein prosesau.

“Mae profiad blaenorol Sian o weithio fel arweinydd tîm gwneud penderfyniadau yn Gocompare.com yn golygu y bydd ganddi’r sgiliau delfrydol i helpu i reoli ein prosiectau a chynnig cymorth gweithredol cyffredinol i aelodau’r tîm.”

Sian Musk Operations Manager PTI Cymru

 

Diwedd


Dylai unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau gael eu cyfeirio at Sadye Baker neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio 
sadye@jamjar-pr.co.uk.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon