Newyddion

Visit the Brecon Beacons cyclists

Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd

17 Chwefror 2016

Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.

Mae ymwelwyr a thrigolion ifanc o drefi a dinasoedd cyfagos yn cael eu hannog i wneud adduned i deithio i Fannau Brycheiniog ar drafnidiaeth gyhoeddus, a thynnu lluniau o’u hunain yn mwynhau eu hantur bersonol yn y Parc Cenedlaethol. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd angen i luniau o’u teithiau a’u hanturiaethau gael eu rhoi ar Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #myndifannaubrycheiniog neu #destinationbreconbeacons, a bydd angen tagio’r lluniau â @BreconBeacons

Bydd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Choleg Merthyr yn cynnal digwyddiadau lansio yn ystod mis Ionawr, ac mae taflenni sy’n hysbysebu’r gystadleuaeth yn cael eu dosbarthu i ysgolion a cholegau chweched dosbarth yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau. Rhaid bod y sawl sy’n cystadlu yn 16 oed neu hŷn, a bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 1 Ionawr a 14 Mawrth. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth.

Meddai Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Diben y gystadleuaeth hon yw cymell pobl i lynu wrth eu haddunedau blwyddyn newydd, ac mae’n ffordd ddelfrydol o sicrhau dechrau gwych i 2016 drwy annog myfyrwyr a phobl ifanc i ehangu eu gorwelion a chrwydro Bannau Brycheiniog. Mae’r gystadleuaeth wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru. Mae cyrraedd y Parc Cenedlaethol heb gar yn hawdd o ddinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe. Dim ond tua 90 munud y mae’n ei gymryd ar y bws neu’r trên, sy’n golygu nad yw diwrnod o antur byth yn bell iawn i ffwrdd. Gall pobl ifanc 16-18 oed fanteisio ar Fyngherdynteithio, sef cerdyn teithio rhatach newydd sy’n eu galluogi i gael un rhan o dair oddi ar bris eu tocynnau bws. https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/

Meddai Laura Thomas ar ran Traveline Cymru:

“Mae’n fenter wych sy’n annog pobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn lle gyrru eu ceir. Drwy wneud newid bach i’ch arferion teithio, gallwch wneud gwahaniaeth mawr i’ch cyfrif banc, eich iechyd a’r amgylchedd. Pe bai pawb unwaith y mis yn dewis y bws yn lle’r car, byddai’n golygu biliwn yn llai o siwrneiau car ac yn arbed dwy filiwn o dunelli o CO2. Mae’n gystadleuaeth wych ac amserol iawn, oherwydd gall pobl gysylltu eu haddunedau blwyddyn newydd â thaith i’r Bannau.”

Meddai’r Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n Hyrwyddwr Busnes a Chymunedau, sef y Cynghorydd Gareth Ratcliffe:

“Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle delfrydol i wireddu addunedau blwyddyn newydd. Mae cynifer o ffyrdd y gallwch fynd allan a gwneud rhywbeth anturus megis dringo mynydd, cerdded ar hyd llwybr, canŵio ar hyd afon neu gerdded y tu ôl i raeadr. Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer addunedau blwyddyn newydd, ewch i www.breconbeacons.org. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ac yn rhannu eu profiadau â ni ar Instagram. Rydym yn edrych ymlaen at weld anturiaethau pobl yn y Parc Cenedlaethol.”


DIWEDD


Llun gan Anthony Pease

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon