Newyddion

Transport news and updates

Arolwg yn dangos bod teithio ar y bws yn y de £1,400 y flwyddyn yn rhatach na theithio i’r gwaith yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd

24 Chwefror 2016

  • Mae pobl sy’n teithio ar y bws yn arbed dros £110 y mis ar gyfartaledd drwy adael y car gartref
  • Cynhaliodd Stagecoach arolwg a oedd yn ymdrin ag oddeutu 35 o’r prif lwybrau ar gyfer teithio i’r gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae ymchwil cenedlaethol newydd wedi darganfod y gall y sawl sy’n teithio i’r gwaith arbed oddeutu £1,400 y flwyddyn drwy ddal y bws yn lle teithio yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd.

Yn ôl yr astudiaeth, mae teithio ar y bws oddeutu 55% yn rhatach nag ydyw i wneud yr un daith yn y car, sy’n golygu bod teithwyr yn arbed dros £110 y mis ar gyfartaledd.

Er bod prisiau tanwydd ar eu lefel isaf ers chwe blynedd byddai’r arbedion hyn yn ddigon i dalu holl gostau ynni blynyddol tŷ o faint canolig.*

Roedd yr ymchwil gan Stagecoach, y gweithredwr bysiau mwyaf ym Mhrydain, yn ymdrin ag oddeutu 35 o’r prif lwybrau ar gyfer teithio i’r gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Roedd yn cymharu cost wythnosol dal y bws â chost tanwydd a pharcio’r car ar gyfer yr un daith.

Roedd yr astudiaeth wedi darganfod y gallai’r sawl sy’n teithio i’r gwaith rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd arbed oddeutu £1,400 y flwyddyn drwy ddechrau defnyddio’r bws.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru: “Mae prisiau tanwydd ar eu lefel isaf ers chwe blynedd, ond mae’n dal i fod cymaint yn rhatach i lawer o bobl ar hyd a lled y wlad deithio i’r gwaith ar y bws.

“Byddai’r arbedion cyfartalog yn talu cyfran fawr o filiau ynni blynyddol pobl, ac i rai pobl byddai’r arbedion yn talu am gost wythnos o wyliau i’r teulu yn yr haul yn Florida.

“Mae dal y bws hefyd yn haws nag erioed o’r blaen, gyda chyfleuster tocynnau clyfar a chyfleuster tracio bysiau ar gael drwy eich ffôn clyfar, a’r ffaith bod modd cysylltu â’r we yn rhad ac am ddim ar lawer o’n bysiau newydd.”

Mae Stagecoach yn gweithio gyda’r prif grwpiau trafnidiaeth gyhoeddus eraill yn y DU, yn ogystal â’r grŵp ymgyrchu Greener Journeys ac awdurdodau lleol, i ddenu mwy o bobl i adael eu ceir a defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn lleihau llygredd a thagfeydd yn nhrefi a dinasoedd y DU.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n cynnig tocynnau Dayrider** – sy’n rhoi’r cyfle i bobl deithio mewn ardal leol benodol cynifer o weithiau ag y maent yn ei ddymuno – am £2 yn unig i deithwyr dan 19 oed yn rhan o gynnig arbennig. Yn ogystal, Stagecoach yw’r unig weithredwr bysiau i gynnig gostyngiad cenedlaethol i geiswyr gwaith, gan roi gostyngiad o 50% oddi ar bris tocynnau bws i bawb sydd â cherdyn teithio’r Ganolfan Byd Gwaith er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith.

Yn ystod 2015 buddsoddodd Stagecoach De Cymru dros £5.6 miliwn mewn bysiau oedd â lefelau is o allyriadau, a oedd hefyd yn cynnwys cyfleuster ar gyfer cysylltu â’r we yn rhad ac am ddim a chadeiriau cyffyrddus â chefnau uchel, ac mae’r bysiau mwyaf newydd yn cynnwys pwyntiau gwefru USB.

Mae Stagecoach hefyd yn buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd mewn technoleg newydd. Yn ddiweddar lansiodd y cwmni wefan newydd ar gyfer bysiau yn y DU, ac mae’r wefan hefyd ar gael ar ddyfeisiau symudol. Mae’r wefan hon yn galluogi cwsmeriaid i wirio ble mae gwasanaethau bysiau arni mewn amser real, ac yn eu galluogi i brynu tocynnau gan ddefnyddio eu ffôn clyfar.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau bysiau Stagecoach yn y DU ewch i www.stagecoachbus.com.

DIWEDD

Gellir gweld copi o ganlyniadau arolwg Stagecoach yma -
http://www.stagecoach.com/~/media/Files/S/Stagecoach-Group/Attachments/media/press/pr2016/fuel-comparison-2016.pdf

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch ag adran gyfathrebu Stagecoach Group drwy ffonio 01738 442111 neu ebostio media@stagecoachgroup.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon