Newyddion

mytravelpass

Arolwg adborth cwsmeriaid - fyngherdynteithio

02 Mawrth 2016

Mae fyngherdynteithio yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n galluogi pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed i gael 1/3 oddi ar bris tocynnau bws yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae fyngherdynteithio yn cynnal arolwg i gasglu adborth cwsmeriaid er mwyn gweld beth yw’r ffordd orau o farchnata’r cynllun ymhellach fel bod mwy o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn cael cyfle i gael tocynnau bws rhatach drwy Gymru gyfan.

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg, byddwch yn cael cyfle i ennill gwobr, sef gwerth £50 o dalebau siopa.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon