Newyddion

Gowerton train station

Yr orsaf drenau yng Nghymru sydd wedi gweld cynnydd o 2,100% yn nifer y teithwyr

15 Mawrth 2016

Ffynhonnell y wybodaeth a’r llun: Wales Online.

Mae dadansoddiad newydd wedi datgelu sut y mae’r atgyfodiad ym mhoblogrwydd teithio ar y trên ynghyd â buddsoddiad wedi trawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae dadansoddiad newydd yn datgelu bod nifer y teithwyr wedi cynyddu’n fawr ers 1998 mewn nifer o’r gorsafoedd yng Nghymru.

Gwelwyd cynnydd o 2,100% yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio gorsaf drenau Tre-gŵyr ger Abertawe.

A gwelodd gorsaf Bae Caerdydd dwf o dros 1,100% yn nifer y teithwyr rhwng 1998 a 2015, yn ôl dadansoddiad o ystadegau swyddogol a gynhaliwyd gan yr ymgynghorydd trafnidiaeth John Davies.

Cafodd ei ddadansoddiad ei ysbrydoli gan fap ar-lein diweddar o’r defnydd o orsafoedd yn ystod yr un cyfnod a grëwyd gan yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well.

Mae’r twf yn nifer y teithwyr ar draws Cymru yn gwrthgyferbynnu â rhagdybiaeth Llywodraeth y DU na fyddai’r galw’n cynyddu’n sylweddol pan roddodd y fasnachfraint ar gyfer Cymru a’r Gororau i gwmni Arriva.

Tre-gŵyr yw cartref yr AC lleol, Edwina Hart, sydd hefyd yn weinidog trafnidiaeth Cymru.

Yn 1998, roedd y rhan fwyaf o drenau’n gwibio heibio i’r platfform moel yn Nhre-gŵyr oherwydd nad oedd digon o le ar y trac sengl rhwng Llanelli ac Abertawe.

Bu i Lywodraeth Cymru ariannu ail drac a moderneiddio gorsaf Tre-gŵyr yn 2013.

Gydag o leiaf un trên yr awr yn teithio i’r ddau gyfeiriad yn ystod y dydd, yn fuan iawn datblygodd yr orsaf yn ben lein deniadol i’r ardal. Dywedodd Mr Davies fod y cynnydd o 5,900 o deithwyr yn 1998 i 130,650 o deithwyr yn 2015 yn dipyn o syndod.

Roedd nifer y teithwyr yng ngorsaf Caerdydd Canolog, sef gorsaf brysuraf Cymru wedi mwy na dyblu dros yr un cyfnod, ac roedd nifer y teithiau o orsaf Bae Caerdydd ac i’r orsaf honno wedi cynyddu o 93,700 i dros 1.14 miliwn.

“Mae’r ffigur anhygoel ar gyfer Bae Caerdydd yn dangos bod traffig yn y lleoliad hwn yn draffig dwyffordd, o gofio cymaint o breswylwyr cefnog sy’n byw’n lleol,” meddai Mr Davies, a oedd yn rheolwr cangen British Rail yng Nghymru yn yr 1980au a dechrau’r 1990au.

Fodd bynnag, dywedodd Mr Davies fod yr 21% o gynnydd yn nifer y teithwyr ar y trên yn Abergwaun yn siom ar ôl i Lywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau trên ychwanegol yno.

Yn ogystal, galwodd am welliannau ar hyd prif linellau’r gogledd a’r de, lle mae’r twf yn nifer y teithwyr wedi bod yn eithaf bach.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffigurau cyffredinol yn dangos bod ei pholisïau’n gweithio. Byddai’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i foderneiddio holl isadeiledd rheilffyrdd Cymru.

“Mae ein buddsoddiad sylweddol yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd wedi arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau rheilffordd,” meddai un llefarydd.

“Rydym yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn pan fyddwn yn cymryd cyfrifoldeb llawn am fasnachfraint reilffyrdd Cymru a’r Gororau yn 2018.

“Bydd hynny’n rhoi mwy o allu i ni bennu gwasanaethau i ddiwallu anghenion teithwyr ar draws ardal lawn y fasnachfraint.”

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru: “Mae’r twf da yn nifer y teithwyr yn adlewyrchu poblogrwydd parhaus teithio ar y trên ar draws ein rhwydwaith.

“Mae ein cofnodion ni ein hunain yn dangos bod cynnydd o dros 60% wedi bod yng nghyfanswm nifer y teithiau gan deithwyr ers dechrau’r fasnachfraint yn 2003. Fodd bynnag, cafodd ein masnachfraint ei chynllunio gan ddisgwyl dim twf yn nifer y teithwyr a gyda fflyd sefydlog gyfyngedig ar gyfer y 15 mlynedd y byddai’n para.

“Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, rydym wedi ymateb i’r cynnydd hwn yn y galw gan gwsmeriaid.”

Bellach, mae Trenau Arriva Cymru yn rhedeg llawer mwy o wasanaethau bob dydd nag oedd ar gael yn 1998.

Gallwch ddarllen rhagor yma ar Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon