Newyddion

Transport news and updates

First Cymru yn helpu Toby i fynd ar y bws

10 Mai 2016

Mae’n siŵr bod sawl un ohonom wedi breuddwydio am gael eistedd yn sedd y gyrrwr bws pan oeddem yn blant.

Ac roedd cael gwneud hynny’n brofiad arbennig i Toby Williams, 9 oed, o Hwlffordd pan gafodd gyfle i archwilio bws ac ynddo 37 sedd.

Collodd Toby ei olwg ddwy flynedd yn ôl oherwydd salwch, ac mae’n ceisio adennill ei annibyniaeth gyda help yr elusen Blind Children UK (Cymru).  

Cysylltodd yr elusen â First Cymru, sydd â depo yn Hwlffordd, ac roedd gweithwyr yr elusen wrth eu bodd pan gafodd Toby wahoddiad i fynd i archwilio bws llonydd gyda Michelle Green sy’n hyfforddi i fod yn arbenigwr adsefydlu.

“Ein nod yw gwella sgiliau symud, annibyniaeth a hyder Toby, a bydd llwyddo i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ei helpu i gyflawni hynny,” meddai Michelle. “Trwy archwilio bws llonydd â’i ffon hir, gall Toby ddysgu sut i dalu’r gyrrwr, dod o hyd i sedd a gwasgu’r botwm i ofyn i’r gyrrwr stopio.

“Bydd y cyfle hwn yn bendant yn helpu Toby i ddeall nodweddion a chynllun bws cyhoeddus, a bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i’w hyder pan fydd yn defnyddio bysiau yn ystod ei hyfforddiant sgiliau symud ac yn y dyfodol.”
 
Her gyntaf Toby oedd ymdopi â gris uchel er mwyn mynd i mewn i’r bws, a llwyddodd i fesur uchder y gris gan ddefnyddio ei ffon.

Ar ôl mynd ar y bws, dangoswyd iddo sut i brynu neu ddangos ei docyn, a chafodd gyfle hyd yn oed i fynd y tu ôl i’r gwydr ac eistedd yn sedd y gyrrwr.

Cyfrodd nifer y seddi, dysgodd sut i ddod o hyd i’r seddi ar gyfer pobl sy’n cael blaenoriaeth dros eraill, a gwnaeth fwynhau archwilio pob rhan o’r bws yr holl ffordd yn ôl i’r cefn.

Aeth pethau’n fwy cyffrous pan daniwyd yr injan er mwyn i Toby glywed y sŵn a theimlo’r bws yn dirgrynu.

“Roedd y cyfan yn ddefnyddiol iawn, oherwydd bydd Toby yn gallu dod o hyd i bethau’n hyderus y tro nesaf y byddwn yn mynd ar fws,” meddai Michelle. “Y cam nesaf fydd ymarfer ar fws gwasanaeth go iawn, gan ddefnyddio ei ffon.”

Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Roeddem yn fwy na pharod i Toby ddod yn gyfarwydd â bws yn ein depo yn Hwlffordd.”

Meddai wedyn: “Rydym yn deall bod ein gwasanaethau bws yn hollol hanfodol i rai pobl, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eu teithiau mor hwylus a diogel ag sy’n bosibl. Yn achos Toby, bydd gwers a oedd yn llai na 2 awr o hyd o fantais iddo am flynyddoedd lawer.”

toby%20aisle%20smiling.JPG

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon