Newyddion

Traveline Cymru customers amongst happiest in UK

Cwsmeriaid Traveline Cymru gyda’r mwyaf bodlon yn y DU

21 Gorffennaf 2016

Mae arolwg diweddaraf Traveline Cymru o’i ddefnyddwyr wedi arwain at y lefelau gorau erioed o fodlonrwydd ymysg ei gwsmeriaid.

Yn ôl adroddiad diweddaraf Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU (UKCSI), Cymru sydd â’r lefelau uchaf o fodlonrwydd ymysg cwsmeriaid o blith holl wledydd y DU.

Cafodd lefelau bodlonrwydd ar draws gwasanaethau Traveline Cymru – y ganolfan gyswllt, y wefan a’r ap – eu mesur drwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill gan ddefnyddio cyfweliadau dwyieithog dros y ffôn ac arolwg ar-lein.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, a ddatblygwyd gan ymgynghoriaeth ymchwil a chynllunio annibynnol o’r enw Wright Research, roedd 97% o ddefnyddwyr y ganolfan gyswllt a arolygwyd yn ‘fodlon iawn/eithaf bodlon’ â’r gwasanaeth a gawsant, sy’n uwch na’r lefel o 92% a welwyd yn 2015.

Mae’r tebygolrwydd y bydd cwsmeriaid am ddefnyddio gwasanaeth y ganolfan gyswllt unwaith eto wedi cynyddu o 88% yn 2015 i 99%, sef y lefel uchaf ers dechrau cynnal yr arolwg yn 2009.

Meddai Emma Lockett, rheolwr Contact Centre Cymru: “Mae’r canlyniadau ar gyfer y ganolfan gyswllt yn wych, ac mae nifer y bobol sy’n debygol o ddefnyddio ein gwasanaeth unwaith eto ar ei lefel uchaf erioed, sy’n tystio i holl waith caled ein gweithwyr.

“Mae’r ganolfan gyswllt wedi bod yn gweithredu ers un ar ddeg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi ymdrin â thros 2.9 miliwn o alwadau, sef bron un i bob person sy’n byw yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi tîm o 21 o weithwyr llawn-amser a rhan-amser sy’n gymwys iawn ym maes gwasanaeth cwsmer. Mae cael cymaint o ganmoliaeth yn rhoi llawer iawn o foddhad i ni, ac mae gwybod bod ein cwsmeriaid gyda’r mwyaf bodlon yn y DU yn golygu bod aelodau’r tîm yn fwy awyddus fyth i barhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’w cwsmeriaid.”

Cael gafael ar amseroedd bysiau yw’r prif reswm o hyd dros ddefnyddio gwasanaeth canolfan gyswllt Traveline Cymru, a nododd y sawl a ymatebodd i’r arolwg eu bod yn gallu ‘cael y wybodaeth angenrheidiol’ gan bobl ben draw’r ffôn ‘sy’n gyfeillgar ac yn barod i helpu’.

Roedd mwyafrif defnyddwyr y ganolfan gyswllt wedi defnyddio’r gwasanaeth sawl gwaith o’r blaen, ond roedd 27% o’r sawl a arolygwyd yn ffonio’r ganolfan am y tro cyntaf.

Cafodd gwefan ac ap Traveline Cymru ganmoliaeth uchel hefyd.

Roedd 93% o’r ymatebwyr yn debygol o ddefnyddio gwefan Traveline Cymru unwaith eto, sy’n uwch na’r ganran flaenorol o 87%, a bu iddynt nodi mai rhwyddineb a chyflymder defnyddio’r wefan oedd y prif resymau dros gynyddu eu bodlonrwydd â’r profiad a gawsant.

Mae cyfran y bobl sy’n defnyddio’r cynlluniwr taith yn cynyddu, oherwydd mae tri chwarter y sawl sy’n defnyddio’r ap yn defnyddio’r cyfleuster hwnnw bellach.

Meddai Ken Skates, ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru dros yr economi a’r seilwaith: “Mae darparu gwasanaeth gwybodus, defnyddiol ar fwy nag un platfform i gwsmeriaid yn gwneud cymaint o wahaniaeth i deithwyr, ac mae’r canlyniadau hyn yn tystio i’r gwaith caled y mae Traveline Cymru wedi’i wneud er mwyn rhagori yn y maes hwn. 

“Mae’n wych gweld darparwr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd o safbwynt y modd y mae’n rhyngweithio â’i holl gwsmeriaid ac yn darparu ar eu cyfer. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”

Meddai Jo Foxall, rheolwr marchnata Traveline Cymru: “Rydym wrth ein bodd â chanlyniadau’r ymchwil – dyma’r canlyniadau gorau ers dechrau’r ymchwil yn 2009. Mae cwsmeriaid wrth wraidd pob peth rydym yn ei wneud, felly mae cael adborth ganddynt yn hanfodol er mwyn adolygu ein prosesau presennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gwrando ar anghenion y cwsmer ac rydym wedi datblygu ein gwasanaethau o amgylch yr anghenion hynny. Rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwn a cheisio parhau i wella lefel y gwasanaeth a ddarperir gennym.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên ledled y wlad trwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan gyswllt a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer y sawl sy'n defnyddio ffôn symudol.

 

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Sadye Baker neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio Sadye@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon