Newyddion

Fishguard and Goodwick railway station

Cyfleusterau newydd a gwell i orsaf reilffordd Abergwaun ac Wdig

18 Awst 2016

Mae caffi newydd a thoiledau cyfagos, ynghyd â mwy o leoedd parcio di-dâl, wedi sicrhau gwelliannau ychwanegol i orsaf reilffordd Abergwaun ac Wdig. Mae’r caffi wedi prysur ddod yn ffefryn ymhlith trigolion lleol sy’n galw heibio am baned ac am ginio dydd Sul.

Ailagorodd gorsaf reilffordd Abergwaun ac Wdig yn 2012 ar ôl bod ar gau am 48 o flynyddoedd, ac mae wedi tyfu ers hynny gan gynnig mwy o gyfleusterau i’r sawl sy’n teithio trwy’r ardal.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon