Newyddion

Gwaith Trydaneiddio Rheilffyrdd

Gwaith Trydaneiddio Rheilffyrdd

09 Medi 2016

O fis Medi 2016 ymlaen, bydd Twnnel Hafren ar gau am chwe wythnos oherwydd gwaith trydaneiddio rheilffyrdd.

Bydd y twnnel yn cau ar 12 Medi 2016 ac yn ailagor ar 21 Hydref 2016. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd peirianwyr Network Rail yn gweithio i osod yr offer newydd a fydd yn darparu trydan ar gyfer y fflyd newydd o drenau cyflymach a fydd yn fwy caredig i’r amgylchedd. 

Severn%20Tunnel%20Poster.jpg

 
Cliciwch yma i weld gwybodaeth gan Network Rail ynghylch cau’r twnnel.

Yn ogystal, gallwch weld taflen wybodaeth gan Network Rail drwy glicio yma.


Cwestiynau cyffredin

Cliciwch yma i weld y ddogfen cwestiynau cyffredin gan Network Rail.

 

Gweler y wybodaeth isod gan weithredwyr trafnidiaeth ynghylch cau’r twnnel.

 

Trenau Arriva Cymru

Oherwydd gwelliannau hanfodol a wneir gan Network Rail, bydd y rheilffyrdd rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydda rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy ar gau drwy’r dydd yn ystod penwythnosau 7-8 Tachwedd ac 14-15 Tachwedd 2016.

Bydd gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd drwy’r penwythnos. Bydd cau’r rheilffyrdd yn effeithio ar yr holl gwmnïau trenau (Trenau Arriva Cymru, CrossCountry a Rheilffordd y Great Western) sy’n rhedeg gwasanaethau ar y brif reilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, a bydd yn effeithio ar wasanaethau rhwng de Cymru a Llundain, Bryste, Birmingham a Manceinion.

Bydd arwyddion clir i ddangos ble mae’r arosfannau bysiau: Arhosfan bysiau Caerdydd Canolog: Heol Penarth/allanfa’r maes parcio cefn. 
Arhosfan bysiau Casnewydd: Heol Godfrey/allanfa’r maes parcio.
O ganlyniad, ychydig iawn o leoedd fydd ar gael yn y meysydd parcio hyn yn ystod y penwythnosau dan sylw.

Yn ogystal, bydd gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy i’r ddau gyfeiriad drwy’r penwythnos. Gallwch lawrlwytho’r amserlen yma.

Bydd gwasanaethau Rheilffordd y Great Western i Lundain a Portsmouth yn dechrau ac yn gorffen yng ngorsaf Bristol Parkway, a bydd bysiau yn lle trenau yn teithio’n uniongyrchol rhwng Bristol Parkway a Chaerdydd Canolog, rhwng Bristol Parkway a Chasnewydd, a rhwng Bristol Parkway a Chyffordd Twnnel Hafren. Bydd gwasanaethau trên cysylltiol yn rhedeg rhwng Caerdydd a’r gorllewin.

Cynghorir cwsmeriaid i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith, ac yn anffodus ni fydd modd cludo cŵn (ar wahân i gŵn tywys), beiciau, pramiau na bagiau mawr ar y gwasanaethau bws.

Hoffai Trenau Arriva Cymru ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Trenau Arriva Cymru yma.

 

Rheilffordd y Great Western

Mae Network Rail yn gweithio ar drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Llundain a Bryste, Caerdydd ac Abertawe, a fydd yn golygu trenau newydd sbon a gwasanaethau rheilffordd cyflymach.

Mae Rheilffordd y Great Western wedi bod yn cydweithio’n agos â Network Rail i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl tra bydd y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.

Bydd gwasanaethau rheilffordd i Lundain yn parhau i fynd drwy Gaerloyw, felly bydd y teithiau’n hirach. Bydd Rheilffordd y Great Western hefyd yn cynnig amserlen gynhwysfawr o wasanaethau bws rhwng Casnewydd a Bryste ar gyfer teithiau lleol.

Mae tudalen bwrpasol ar gyfer gwybodaeth i’w chael ar wefan Rheilffordd y Great Western yma.

Yn ogystal, gallwch weld taflen wybodaeth gysylltiedig yma sydd wedi’i llunio gyda Network Rail. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau bws a fydd yn rhedeg yn lle trenau, a manylion y gwasanaethau yr effeithir arnynt.

Mae Rheilffordd y Great Western hefyd yn gweithio gyda Trenau Arriva Cymru i ddarparu gwybodaeth mewn gorsafoedd, a bydd yn trefnu bod cyhoeddiadau a chyngor yn cael eu rhoi ar y trenau.

Yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Nhwnnel Hafren bydd Network Rail yn gwneud gwelliannau o gwmpas Filton, a fydd yn effeithio ar wasanaethau Bryste, de Cymru a Chaerloyw adeg Gŵyl y Banc ym mis Awst (27 – 29 Awst).

Mae tudalen bwrpasol ar gyfer gwybodaeth wedi’i chreu ar gyfer y gwaith hwn hefyd, a gellir ei gweld yma ar wefan Rheilffordd y Great Western ynghyd â thaflen wybodaeth gysylltiedig.

Bydd y gwaith ailsignalu yn Filton yn golygu newidiadau i nifer o deithiau trên. Mae Rheilffordd y Great Western yn gweithio gyda Network Rail i sicrhau bod y teithiau hyn yn cael eu llwytho ar y system prynu tocynnau trên cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cynghorir cwsmeriaid i chwilio am ddiweddariadau a ddarperir drwy negeseuon arbennig, pan gaiff tocynnau eu prynu ar-lein, a thrwy wybodaeth mewn swyddfeydd tocynnau.


Amserlenni Rheilffordd y Great Western

Isod gallwch weld amserlenni Rheilffordd y Great Western tra bydd Twnnel Hafren ar gau:

Amserlenni gwasanaethau rhwng Caerdydd ac arfordir de Lloegr

Amserlenni gwasanaethau rhwng Llundain a de Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon