Newyddion

Cardiff Bus running for Headway

Staff Bws Caerdydd yn rhedeg er budd Headway

30 Medi 2016

Bydd grŵp o gydweithwyr sy’n gweithio i Bws Caerdydd yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul i godi arian i Headway Caerdydd.

Cafodd Headway Caerdydd, elusen sy’n cefnogi’r sawl sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd, ei ddewis gan weithwyr Bws Caerdydd yn elusen sy’n bartner i’r cwmni ar gyfer 2016.

Bydd tîm Hanner Marathon Bws Caerdydd yn cynnwys deg o weithwyr sy’n amrywio o yrwyr bysiau i uwch-gyfarwyddwyr. 

Bydd Gareth Mole, Simon Mohammad, Bryan Meredith, Gareth Emery, Phill Whaley, Keith Saunders, Jamie Blackwood, Jeff Deere, John Wiltshire a Kevin Hancock yn rhedeg y llwybr 13.1 milltir o gwmpas Caerdydd ddydd Sul.

Roedd Alex Hughes o Gaerdydd, sydd bellach yn 23 oed, yn fyfyriwr 16 oed yn Ysgol Gyfun Radur pan ddioddefodd ymosodiad a chael ei daro ar ei ben â photel tra’r oedd ar wyliau yn Puerto Andratx, Sbaen. Mae ei anaf wedi gadael gwendid ar ei ochr chwith, ac mae hynny’n effeithio ar ei gydbwysedd a’i allu i gerdded ac mae’n cyfyngu ar ei ddefnydd o’i fraich a’i law chwith. Yn ogystal, mae ganddo nam ar ei olwg ac mae’n cael trafferth cofio pethau.

Mynychodd Headstart, grŵp yn Headway i bobl ifanc, i’w helpu i ailddysgu’r sgiliau yr oedd wedi’u colli ac adennill ei annibyniaeth. Aeth yn ei flaen i’r coleg i astudio am gymwysterau B Tech mewn Sgiliau Bywyd, y Cyfryngau a’r Celfyddydau.

Bu i Judith Dutton – mam i dri o blant sy’n dod o’r Barri ac sy’n 48 oed – ddioddef gwaedlif is-aracnoid ar y diwrnod y cafodd ei derbyn i fod yn rhiant maeth. Treuliodd chwe wythnos yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael triniaethau cymhleth i atal y gwaedu ar yr ymennydd ac atal ei chalon rhag methu.

Erbyn hyn mae’n cael trafferth cerdded oherwydd problemau â’i chydbwysedd, mae’n cael trafferth â’i lleferydd a’i chof ac mae’n blino’n hawdd. Mae’n mynychu grŵp cymdeithasol Headway Caerdydd i’r sawl sydd wedi goroesi anafiadau i’r ymennydd.

Meddai Gareth Mole, cyfarwyddwr peirianneg gyda Bws Caerdydd: “Mae cynifer o elusennau haeddiannol i’w cael, ond fel sefydliad yng Nghaerdydd roeddem ni am gefnogi elusen leol, ac roedd Headway Caerdydd yn ddelfrydol.

“Hon fydd y fenter codi arian ddiweddaraf i ni ei threfnu eleni i godi arian i Headway Caerdydd. Rydym wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd iawn ac mae’n braf gweld cynifer o’r tîm – o bob oed – yn awyddus i gymryd rhan er mwyn helpu Bws Caerdydd i godi arian hanfodol i’r elusen.”

Meddai Rebecca Pearce, Prif Weithredwr Headway Caerdydd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Bws Caerdydd am ein dewis yn elusen sy’n bartner i’r cwmni. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r tîm i gefnogi ymdrechion y staff i godi arian eleni.

“Gallwn weld bod y tîm i gyd wedi ymdrechu’n galed i ymarfer ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, ac rydym yn dymuno’n dda iddynt ar gyfer dydd Sul. Byddwn ni yno’n eu cefnogi!”

Gallwch chi gefnogi’r tîm drwy roi rhodd ariannol yma.

I gael rhagor o wybodaeth am Headway Cardiff ewch i www.headwaycardiff.org.uk.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon