Newyddion

New Stagecoach Smartphone App Saves Bus Passengers Time

Ap Newydd Stagecoach Ar Gyfer Ffonau Clyfar Yn Arbed Amser I'r Sawl Sy'n Teithio Ar Fysiau

13 Hydref 2016

  • Cyfleuster cynllunio taith, gwybodaeth am yr arhosfan nesaf a chyfleuster tracio bysiau amser-real ar gael
  • Bydd y cyfleuster tocynnau ar ddyfais symudol yn cael ei lansio mewn rhai misoedd
  • Mae ap Stagecoach ar gael ar gyfer ffonau symudol Apple ac Android
  • Mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â thagfeydd er mwyn i’r sawl sy’n teithio ar fysiau gael y budd mwyaf posibl

Mae’r gweithredwr bysiau mwyaf ym Mhrydain wedi lansio ap newydd a fydd yn arbed amser i deithwyr drwy ddarparu cyfleuster tocynnau ar ddyfais symudol, gwybodaeth well a chyfleuster tracio bysiau amser-real.

Mae Stagecoach, sy’n rhedeg bron i un o bob pedwar o’r 32,000 a mwy o fysiau yn y DU y tu allan i Lundain, wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn sicrhau ei bod yn haws i bobl deithio ar y bws.

Mae ap newydd Stagecoach ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer ffonau symudol Apple ac Android.

Ond mae’r cwmni wedi rhybuddio bod angen cymryd camau ar frys i fynd i’r afael â thagfeydd ar y ffyrdd, sy’n gwaethygu, os yw’r sawl sy’n teithio ar fysiau am gael y budd mwyaf posibl o’r dechnoleg newydd.

Drwy’r ap, bydd Stagecoach yn cynnig cyfleuster tocynnau ar ddyfais symudol ar ei wasanaethau bws lleol am y tro cyntaf, gan alluogi cwsmeriaid i brynu a lawrlwytho tocynnau’n syth i’w ffôn symudol.

Disgwylir i’r cyfleuster tocynnau ar ddyfais symudol, sy’n cynnig tocynnau Dayrider, gael ei gyflwyno ar draws de Cymru dros y misoedd nesaf. Gellir talu am docynnau ar yr ap drwy gyfleuster PayPal neu gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Mae’r ap newydd yn cynnig adnodd cynllunio taith syml sy’n defnyddio mapiau rhyngweithiol a system GPS y ffôn clyfar i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf atynt a’r gwasanaeth bysiau mwyaf addas i fodloni gofynion eu taith. Gallant hefyd ddod o hyd i wybodaeth am hyd taith a’r opsiynau sydd ar gael o ran prisiau tocynnau.

Yn ogystal, gall teithwyr weld amseroedd teithio amser-real ar eu ffôn clyfar er mwyn gweld statws eu taith cyn dal y bws – bydd hynny’n rhoi mwy o amser iddynt orffen yr hyn y maent yn ei wneud cyn gadael i ddal y bws.

Yn ogystal, mae’r ap yn galluogi cwsmeriaid i nodi eu lleoliad yn ystod eu taith, gan eu helpu i weld ble y maen nhw ar hyd y llwybr ar unrhyw adeg, pa mor bell y maen nhw o ben eu taith, a phryd y dylent ddod oddi ar y bws. Bydd hynny o fudd arbennig i’r sawl nad ydynt yn defnyddio bysiau’n rheolaidd neu’r sawl sy’n ymweld â lleoliad newydd ac sy’n ansicr ynghylch llwybr y bws.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: “Mewn byd lle mae pawb a phopeth ar ras, mae amser yn werthfawr iawn. Bydd ein ap newydd yn golygu bod teithio ar y bws yn haws, a bydd yn rhoi mwy o amser i bobl ganolbwyntio ar y pethau pwysig eraill yn eu bywydau.

“Felly os ydych chi’n teithio ar y bws i’r gwaith, yn fyfyriwr sy’n mynd i’r coleg, yn deulu sy’n paratoi am ddiwrnod allan neu’n cwrdd â chyfeillion sydd wedi ymddeol, mae’r cyfleuster tracio bysiau amser-real yn golygu bod gennych fwy o amser i chi’ch hun cyn gadael i ddal y bws.

“Mae’r profiad o deithio ar fws yn newid yn gyflym. Rydym wedi buddsoddi mewn bysiau newydd mwy gwyrdd a hygyrch dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cynnwys cyfleuster WiFi am ddim a phwyntiau gwefru USB. Mae tocynnau clyfar a phrisiau tocynnau isel yn y de hefyd yn golygu bod rhesymau da dros ddewis teithio ar y bws.”

Ond ychwanegodd Mr Winter: “Mae ein ap newydd yn gallu gwneud llawer o bethau, ond nid yw’n gallu datrys y broblem gynyddol sy’n ymwneud â thagfeydd ar y ffyrdd. Mae angen i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gymryd camau oherwydd mae teithiau bws cynt a mwy dibynadwy, llai o geir a llai o lygredd yn well i bawb yn ein cymunedau.”

Mae ap Stagecoach Bus yn rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y cwmni yn ei strategaeth ddigidol, sy’n trawsnewid y profiad o deithio i gwsmeriaid.

Ym mis Rhagfyr 2015 lansiodd Stagecoach wefan ymatebol newydd i ddyfeisiau symudol ar gyfer ei adran fysiau yn y DU, sef www.stagecoachbus.com. Mae’r wefan wedi gweddnewid ei wasanaeth ac mae’n cynnwys y gwasanaeth cenedlaethol cyntaf yn y DU ar gyfer cynllunio teithiau bysiau ar-lein, mae’n galluogi teithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn amser-real ynghylch eu gwasanaethau ac yn golygu bod modd prynu tocynnau teithio yn syth o’r ffôn clyfar.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi gosod technoleg Lleoliad Cerbyd Awtomatig (AVL) ar ei fflyd gyfan o fysiau, sy’n tracio lleoliad y cerbyd ac yn adrodd ynghylch ei hynt mewn amser-real. Caiff y wybodaeth honno ei rhannu â theithwyr drwy wefan ac ap y cwmni.

Mae’r dechnoleg sydd wedi’i gosod hefyd ar gael i awdurdodau lleol allu darparu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn amser-real mewn arosfannau bysiau drwy Gaerdydd a Chasnewydd.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau eraill i gwsmeriaid. Mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £5.5 miliwn mewn 35 o fysiau unllawr newydd sbon sydd â llawr isel. Yn ogystal, mae cyfleuster tocynnau clyfar ar gael bellach ar draws y rhwydwaith, a chaiff gwybodaeth amser-real ei harddangos lle bo hynny’n bosibl yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ap newydd Stagecoach, ewch i https://www.stagecoachbus.com/app

 

DIWEDD

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Tîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach drwy ffonio 01738 442111 neu drwy ebostio media@stagecoachgroup.com

Mae ap newydd Stagecoach yn rhoi mwy o amser i bobl orffen yr hyn y maent yn ei wneud cyn gadael i ddal y bws.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon