Newyddion

Cardiff Bus logo

Bws Caerdydd yn gostwng prisiau tocynnau ar Ddydd Gwener Gwallgo

23 Tachwedd 2016

Bydd Bws Caerdydd yn gostwng prisiau ei docynnau dydd ar ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Mae’n debyg mai 25 Tachwedd – neu ‘Ddydd Gwener Gwallgo’ – fydd diwrnod siopa prysura’r flwyddyn, a bydd Bws Caerdydd yn eich helpu i arbed arian drwy ostwng prisiau ei docynnau dydd.

Dim ond wrth dalu ar y bws y gellir cael y tocynnau rhatach, ond byddant ar gael drwy’r dydd.

Prisiau tocynnau ‘day to go’ ar gyfer dydd Gwener 25 Tachwedd:

Day to go (ardal brisiau Caerdydd) - £3 i oedolion, £2 i bobl ifanc
Day to go y Barri (ardal brisiau’r Barri) - £3 i oedolion, £2 i bobl ifanc
Day to go plus (ar draws y rhwydwaith cyfan) - £4 i oedolion, £3 i bobl ifanc

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Bws Caerdydd yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon