Newyddion

Y Flying Scotsman yn dychwelyd i Gymru yn 2017

Y Flying Scotsman yn dychwelyd i Gymru yn 2017

10 Ionawr 2017

Mae’r locomotif enwog yn teithio o amgylch y DU a bydd cyfle i chi ei weld y gwanwyn hwn.

Mae’n bosibl mai dyma locomotif stêm mwyaf enwog y byd, a bydd yn ôl yng Nghymru eleni.

Bydd y sawl sy’n dwlu ar drenau a’r sawl sy’n dwlu ar deithio’n gallu gweld y Flying Scotsman neu fwynhau pryd o fwyd arno y gwanwyn hwn pan fydd yn teithio i Gaerdydd, Casnewydd ac o amgylch Aber Afon Hafren heibio i Gas-gwent.

Beth yw’r Flying Scotsman?

Cafodd y locomotif cryf hwn ei adeiladu yn 1923 a’i alw yn ‘Flying Scotsman’ oherwydd ei rôl yn y gwasanaeth trên dyddiol rhwng Llundain a Chaeredin.

Ble y gallwch ei weld?

Mae teithiau ar y Flying Scotsman ym mis Mai eleni’n cynnwys taith o Gaerdydd i Amwythig (ar 19 Mai), taith o amgylch Aber Afon Hafren o Gasnewydd (ar 19 Mai) a thaith o amgylch Aber Afon Hafren o Fryste (ar 23 Mai).

Ar y daith o Gaerdydd i Amwythig, dim ond ar gyfer y daith yn ôl y bydd y Flying Scotsman yn cael ei ddefnyddio, a bydd y trên yn gadael y dref farchnad ganoloesol hon yn Lloegr am 12 o’r gloch (ganol dydd). Bydd tocyn i oedolyn ar y daith hon yn costio £89.

Bydd y daith o amgylch Aber Afon Hafren, o Gasnewydd a Bryste, yn mynd â chi ar hyd aber ysblennydd Afon Hafren, heibio i Gas-gwent a Lydney i Gaerloyw, a bydd cyfle i chi fwynhau golygfeydd o’r bont grog sy’n cludo’r draffordd ac o Gastell Cas-gwent ac 20 milltir o Afon Hafren.

Bydd y tocyn rhataf i oedolyn ar y daith hon o amgylch Aber Afon Hafren yn costio £79.

Sut mae cadw lle?

Caiff y teithiau eu trefnu gan The Cathedrals Express. Gallwch gael rhagor o wybodaeth neu gadw lle ar eu gwefan.

Ffynhonnell yr erthygl: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon