Newyddion

mytravelpass youth bus discount scheme

Datganiad ysgrifenedig ynghylch Cerdyn Teithio Ieuenctid. Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

22 Chwefror 2017

Mae annog mwy o bobl ifanc i deithio ar y rhwydwaith bysiau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam yr ydym wedi bod yn ariannu cynllun peilot ers mis Medi 2015, sy’n cynnig teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc, dan y brand “FyNgherdynTeithio”.

Rwyf bob amser wedi datgan yn glir fy ymrwymiad i annog pobl ifanc i ddefnyddio ein bysiau, ac ar ôl i adolygiad ddangos bod 91% o’r ymatebwyr wedi defnyddio’r bws o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn mynd i siopa neu fynd i’r gwaith, yr ysgol neu’r coleg, mae’n amlwg bod galw yng Nghymru am gynllun o’r math hwn.  

Rwy’n bwriadu lansio Cerdyn Teithio Ieuenctid newydd yn 2018, a fydd yn gallu cynorthwyo pobl ifanc yn eu bywyd a’u gwaith ac wrth iddynt astudio. Byddaf yn sefydlu ymarfer ymgynghori eang er mwyn trafod â phobl ifanc – gan gynnwys ysgolion, colegau a chwmnïau bysiau – gynllun a fydd yn ddeniadol, a fydd yn gallu cynnig cymorth ymarferol iddynt yn eu bywyd a’u gwaith ac wrth iddynt astudio ac a fydd yn eu hannog i newid y modd y maent yn teithio.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y bydd yn cymryd amser i roi cynllun o’r fath ar waith. Felly, yn y cyfamser, rwyf wedi dod i gytundeb ag awdurdodau lleol a’r diwydiant bysiau y bydd y trefniadau presennol ar gyfer teithiau rhatach ar fysiau’n parhau i fod ar gael i bobl ifanc 16, 17 a 18 oed ledled Cymru o 1 Ebrill 2017 ymlaen. Ni fydd y sawl sydd â cherdyn teithio’n barod yn gweld unrhyw wahaniaeth, a bydd ymgeiswyr newydd yn parhau i allu gwneud cais am ddisgownt o 1/3 oddi ar bris eu tocynnau drwy gyflwyno ceisiadau ar-lein neu drwy’r post.

Rwy’n gobeithio y bydd y sicrwydd y mae’r trefniadau presennol yn ei roi yn y tymor byr, tra byddwn yn creu cynllun gwahanol yn ystod y misoedd nesaf, yn cynnig pob cyfle i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio ein bysiau yn y tymor hir.

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/youthbustravel/?skip=1&lang=cy

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon