Newyddion

Cardiff Bus summer 2017

Bws to agored a mwy o fysiau i’r Bae yn ystod yr haf

13 Gorffennaf 2017

Mae Bws Caerdydd yn eich helpu i wneud yn fawr o haf 2017 drwy ddarparu bysiau ychwanegol a fydd yn teithio’n uniongyrchol rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.

Mae’r Bae yn gyrchfan boblogaidd nid yn unig oherwydd y caffis a’r bwytai niferus sydd yno a’i leoliad ar lan y dŵr a’i olygfeydd gwych, ond hefyd oherwydd ei fod yn ystod yr haf yn ganolfan i sawl digwyddiad cyffrous sy’n dechrau’r penwythnos hwn.

P’un a ydych yn awyddus i flasu rhywbeth gwahanol yn yr Ŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol, yn bwriadu diddanu’r plant ar Draeth Bae Caerdydd, neu’n chwilio am gyffro yn y Gyfres Hwylio Eithafol sy’n dod i Gaerdydd am y chweched waith, gall Bws Caerdydd eich cludo yno ac yn ôl ar wasanaeth baycar (rhif 6).

Yn ogystal â’r amserlen arferol, bydd bysiau ychwanegol yn teithio’n uniongyrchol rhwng Heol Eglwys Fair (Arcêd Wyndham) yng nghanol y ddinas a Chanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, rhwng dydd Gwener 14 Gorffennaf a dydd Sul 3 Medi (gan gynnwys y diwrnod hwnnw). Ni fydd y bysiau ychwanegol hyn yn aros y tu ôl i’r Orsaf Ganolog. Gallwch weld yr amserlen yma.

Bws to agored

Ar ddyddiadau penodol, bydd y teithiau ychwanegol hyn yn digwydd ar un o hen fysiau to agored Bws Caerdydd, sydd wedi’i baentio yn ei liwiau traddodiadol, sef marŵn a hufen. Mae’r bws yng ngofal Bws Caerdydd yn ystod yr haf, diolch i Grŵp Gwarchod Trafnidiaeth Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth am y Grŵp i’w chael yma.

Er ei fod yn fws hŷn, gallwch barhau i dalu am eich tocyn fel y byddech mewn unrhyw fws baycar arall – gan ddefnyddio arian parod, y cerdyn iff, yr ap iff, cerdyn teithio rhatach neu gerdyn banc digyswllt. Bydd y prisiau arferol yn berthnasol.

Dim ond £5 y mae tocyn diwrnod Bws Caerdydd i deulu’n ei gostio yng Nghaerdydd a Phenarth ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgolion lleol. Gallwch brynu’r tocyn oddi wrth y gyrrwr ar ddechrau eich taith gyntaf yn ystod y dydd, neu gan ddefnyddio’r ap iff.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y bws to agored yma.

Bydd y bws to agored yn teithio ar 14, 15, 16, 22, 23, 29 a 30 Gorffennaf ac ar 5, 6, 11, 12, 13, 18, 19, 20, 25, 26 a 27 Awst yn amodol ar y tywydd a chyhyd â bod y cerbyd ar gael.

 

Ffynhonnell y stori: Bws Caerdydd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon