Newyddion

Dulliau digyffwrdd yw’r dyfodol i Stagecoach yn Ne Cymru

Dulliau digyffwrdd yw’r dyfodol i Stagecoach yn Ne Cymru

19 Chwefror 2018

07 Chwefror 2018

Dim arian parod? Dim problem!

Bellach, gall y sawl sy’n teithio ar fysiau yn y de dalu am eu tocynnau gan ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd ar fysiau. Mae’r system newydd yn galluogi cwsmeriaid i dalu â cherdyn credyd neu ddebyd digyffwrdd, yn ogystal â defnyddio cyfleusterau Apple Pay ac Android Pay.

Mae cyfleusterau talu digyffwrdd bellach ar gael i’w defnyddio ar holl fysiau Stagecoach yn y de – ac mae hynny o fudd i deithwyr lleol, sy’n gwneud oddeutu 24 miliwn o deithiau drwy’r flwyddyn.

Mae peiriannau tocynnau newydd sy’n gallu derbyn taliadau digyffwrdd wedi’u gosod ar y fflyd o 352 o fysiau. Mae hynny o fudd i’r miloedd sy’n teithio ar fysiau ar draws y de bob dydd, gan ei fod yn cyflymu’r broses dalu ac yn helpu i sicrhau bod y bysiau’n cadw at eu hamserlen.

Daeth y canwr pop Lloyd Macey i Mill Street, Pontypridd heddiw i lansio’r digwyddiad digyffwrdd. Roedd bws aur newydd sbon, ar gyfer gwasanaeth 120/130, yno ac roedd modd i’r trigolion lleol neidio ar y bws a phrofi’r peiriant tocynnau newydd, y Wi-fi am ddim, y pwyntiau gwefru USB a’r seddi lledr moethus.

Meddai Lloyd Macey:

“Rwyf wedi defnyddio bysiau Stagecoach ers blynyddoedd ac rwyf wedi gweld y gwelliannau y mae’r cwmni wedi’u gwneud i wasanaethau bysiau yn fy nghwm i. Mae’r gwelliant newydd hwn yn dangos ymrwymiad y cwmni i barhau i wella a pharhau i gyflwyno technoleg newydd i’w holl wasanaethau.”

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru:

“Mae cyflwyno technoleg ddigyffwrdd yn fuddsoddiad pellach yn y profiad o deithio ar fysiau yn y de- ddwyrain, ac mae’n ychwanegu at y £4 miliwn sydd eisoes wedi’i fuddsoddi mewn bysiau newydd eleni.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi buddsoddi bron i £30 miliwn yn ystod y deng mlynedd diwethaf mewn cerbydau newydd sbon sy’n lanach ac yn fwy gwyrdd, ac mewn cyfleusterau sy’n gwasanaethu cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn gwefan newydd ac ap ar gyfer ffonau clyfar sy’n galluogi teithwyr i gael gwybodaeth am deithio mewn amser real a phrynu tocynnau ar eu ffôn symudol. Mae’r buddsoddiad hwn mewn dulliau digyffwrdd o dalu am docynnau bws yn arwydd pellach o’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth teithio di-dor i gwsmeriaid – o gynllunio taith, i dalu, i’r daith ei hun.”

Mae defnyddio technoleg ddigyffwrdd yn ffordd syml a diogel o dalu am docynnau bws heb fod angen cario arian parod. Gellir defnyddio’r cyfleuster i brynu unrhyw docynnau sydd ar gael ar y bws sy’n costio hyd at £30. I ddefnyddio’r cyfleuster digyffwrdd gofynnwch am y tocyn yr hoffech ei brynu gan y gyrrwr, cyflwynwch eich cerdyn digyffwrdd neu’ch ffôn clyfar sydd â chyfleuster Apple Pay neu Android Pay arno, ac fe gewch dderbynneb ynghyd â thocyn ar gyfer eich taith.

Ewch i wefan Stagecoach Bus yma i gael rhagor o wybodaeth.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon