Newyddion

Dros 36,000 o bobl yn troi at Traveline Cymru yn ystod y stormydd eira

Dros 36,000 o bobl yn troi at Traveline Cymru yn ystod y stormydd eira

14 Mawrth 2018

Llwyddodd Traveline Cymru, y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, i gadw Cymru i fynd yn ystod y problemau teithio diweddar pan gafodd y cwmni filoedd o alwadau ffôn ac ymholiadau ar-lein.

Yn dilyn rhybuddion y Swyddfa Dywydd ynghylch tywydd garw, trodd teithwyr pryderus at Traveline Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddynt ofidio am amodau teithio anodd.

Yn ystod y pum diwrnod yr effeithiodd yr eira ar amodau teithio, soniodd Traveline Cymru fod y nifer wythnosol arferol o ymweliadau â’i wefan wedi dyblu, fwy neu lai, ym mis Chwefror i 36,000.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, cafodd canolfan gyswllt benodedig Traveline Cymru yn y gogledd dros 9,000 o alwadau gan deithwyr a oedd yn chwilio am gyngor ynghylch teithio, sydd gryn dipyn yn fwy na’r 3,500 o alwadau y mae’r ganolfan yn eu cael bob wythnos ar gyfartaledd.

Gwelwyd cynnydd aruthrol hefyd yn y defnydd a wnaed o gyfryngau cymdeithasol. Cafwyd 1,371 achos o ymgysylltu, sef cynnydd cyffredinol o 2536%. Traveline Cymru sy’n ymdrin â gwasanaeth ffôn TrawsCymru a’i sianelau ar gyfryngau cymdeithasol, a gwelodd TrawsCymru hefyd gynnydd o 195% yn y defnydd a wnaed o gyfryngau cymdeithasol wrth iddo gael 651 achos o ymgysylltu.

Effeithiodd yr eira ar ambell aelod o dîm Traveline Cymru hefyd, ond er gwaetha’r holl alwadau ffôn a’r ffaith bod y ganolfan yn brin o staff llwyddodd y cwmni i ateb 83% o’r holl alwadau.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Achosodd yr eira trwm a’r lluwchfeydd mynych broblemau teithio i lawer o gymudwyr a theithwyr a drodd atom ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw oedi ac am unrhyw wasanaethau nad oeddent ar gael.

“Er gwaetha’r amryw broblemau teithio ar draws rhwydweithiau trenau a bysiau, a allai fod wedi bod yn ddryslyd i lawer, llwyddodd ein tîm yn rhyfeddol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio drwy gyfrwng ein llwyfannau dwyieithog amrywiol.

“Roedd yn rhyddhad mawr i ni ein bod wedi gallu cadw Cymru i fynd yn ystod yr amodau peryglus, gan helpu i gadw aelodau’r cyhoedd yn ddiogel a sicrhau bod y manylion diweddaraf ganddynt wrth law bob amser.

“Gwelsom mai’r sianel fwyaf effeithiol i ni yn ystod yr wythnos diwethaf oedd Twitter, a oedd yn ein galluogi i ddarparu’r wybodaeth ‘amser real’ ddiweddaraf i gynulleidfa fawr. Byddem yn cynghori pobl i ddilyn ein cyfrif Twitter os hoffent gael y newyddion diweddaraf am deithio’n lleol ledled Cymru.”

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dilyn canlyniadau rhagorol i Traveline Cymru, a oedd yn dangos ei fod wedi darparu 5,656,810 o ddarnau o wybodaeth i’r cyhoedd yn ystod 2017, sy’n gyfanswm anhygoel.

Yn ogystal â chanlyniadau cadarnhaol o safbwynt nifer y darnau o wybodaeth a ddarparwyd, medrodd Traveline Cymru ymfalchïo hefyd yn y ffaith bod cyfradd bodlonrwydd ei gwsmeriaid â’r ganolfan gyswllt yn 99%.

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei rif Rhadffôn a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

-DIWEDD-

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips yn jamjar PR ar 01446 771265 / shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon