Newyddion

Her Feicio Cyclone24 Cymru

Her Feicio Cyclone24 Cymru. Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018?

13 Mehefin 2018

Bydd her feicio epig yn digwydd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru ar 21 a 22 Hydref eleni, lle bydd tîm o unigolion yn beicio’r naill ar ôl y llall dros gyfnod o 24 awr yn ddi-stop.

24 tîm, 24 awr, 1 felodrom – Rhowch brawf ar eich cryfder, eich penderfyniad a’ch gallu i gyd-dynnu yn yr her feicio flynyddol hon. 

Mae croeso i bawb o bob gallu gymryd rhan. P’un a ydych yn rhywun sydd newydd ddechrau beicio, yn rhywun sy’n ymarfer ar gyfer triathlon neu’n rhywun sy’n hoffi chwaraeon eithafol, mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer y tîm cyfan. Dyma’r unig her feicio 24 awr mewn felodrom sydd i’w chael yn y DU, ac mae’n cynnig profiad hollol wahanol ac unigryw. Byddwch mewn tîm o 6 pherson a fydd yn beicio’r naill ar ôl y llall, a bydd sesiynau hyfforddi a beiciau trac yn cael eu darparu.

Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018? 

Mae manylion llawn am yr her a sut y dylech gofrestru ar gael ar wefan Cyclone24 yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon