Newyddion

Job Opportunity at Bus Users Cymru. Programme Manager

Cyfle i gael swydd gyda Bus Users Cymru. Rheolwr Rhaglenni

20 Mehefin 2018

Rheolwr Rhaglenni
Caerdydd, De Morgannwg
£21,500 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn aelod o dîm Bus Users UK yng Nghymru. Byddai’r swydd am gyfnod penodol o 6 mis gyda’r posibilrwydd o gael swydd barhaol wedyn.

Rydym yn chwilio am Reolwr Rhaglenni i gynorthwyo’r gwaith o gyflawni strategaeth Bus Users UK yng Nghymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli’r swyddfa yng Nghaerdydd, a’i staff a’i swyddogaethau, a bydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o drefnu digwyddiadau a’r gwaith o hybu a datblygu rhwydwaith o grwpiau/canghennau ledled Cymru.

Mae hon yn swydd amser llawn yn y swyddfa yng Nghaerdydd, a’r cyflog yw £21,500.

Prif ddyletswyddau

  1. Hybu a chynorthwyo’r gwaith o ddatblygu a chyflawni nodau ac amcanion Bus Users UK, a chymryd camau rhagweithiol i adnabod cyfleoedd newydd ar gyfer y sefydliad
  2. Cynorthwyo i greu a datblygu grwpiau neu ganghennau newydd, gan dargedu ardaloedd sy’n gweld newid sylweddol yn eu darpariaeth leol o ran gwasanaethau bws
  3. Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr a’r tîm i ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd recriwtio cefnogwyr, sy’n ennyn diddordeb pobl, sy’n cael llawer o effaith, sy’n arloesol ac sy’n cyd-fynd â’n hamcanion strategol
  4. Bod yn bwynt cyswllt ac yn ffynhonnell cymorth i grwpiau/canghennau Bus Users UK ledled Cymru, ac amlygu unrhyw gysylltiadau neu gyfleoedd i gefnogi gweithgareddau mewn ardaloedd lleol
  5. Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr a’r tîm ehangach i ddatblygu a gweithredu strategaeth sy’n sicrhau’r budd mwyaf i bawb o fod yn gefnogwr, yn gangen neu’n grŵp cysylltiedig
  6. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gallai eich rheolwr llinell ofyn i chi ymgymryd â nhw o dro i dro, sy’n cyd-fynd â lefel eich gallu ac sy’n cynorthwyo’r tîm
  7. Rheoli’r staff sy’n gweithio i Bus Users Cymru yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, a sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rheoli a’i rhedeg yn effeithiol
  8. Goruchwylio gwaith a datblygiad y Gweinyddwyr Cwynion yn Bus Users Cymru, gan sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu dilyn, bod adroddiadau’n cael eu llunio a bod amserlenni targedau’n cael eu bodloni
  9. Yn unol â’r cynllun strategol, datblygu digwyddiadau lle gall aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn am drafnidiaeth leol
  10. Casglu a dadansoddi data a gesglir drwy amrywiaeth o weithgareddau Bus Users Cymru, gan lunio a rhannu adroddiadau cywir a chraff y mae eu cymhlethdod yn amrywio fel y bo angen a chan sicrhau bod digwyddiadau o bwys yn cael eu dwyn i sylw’r rheolwr (rheolwyr) perthnasol ac yn cael eu cyflwyno i’w hystyried at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu
  11. Cyfrannu at lefel o broffesiynoldeb ym mhob agwedd ar waith cyfathrebu mewnol ac allanol, sy’n gyson â brand y sefydliad
  12. Cyfrannu’n adeiladol at les a datblygiad y tîm yn Lloegr a chydweithwyr yn swyddfeydd eraill Bus Users UK

Manyleb person

  1. Profiad o reoli swyddfa
  2. Profiad o reoli staff
  3. Profiad o weithredu a datblygu strategaeth
  4. Profiad o drefnu digwyddiadau
  5. Profiad ym maes datblygu sefydliadol
  6. Sgiliau trafod a chyfathrebu
  7. Profiad o ddatblygu cydberthnasau allanol
  8. Profiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus/y cyfryngau
  9. Profiad o reoli prosiectau
  10. Sgiliau dadansoddi, sgiliau rhifedd a’r gallu i ddefnyddio TG
  11. Y gallu i’ch cymell eich hun yn hyderus i weithio, a’r gallu i flaenoriaethu a chynllunio
  12. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau cryno a chlir a rhoi cyflwyniadau
  13. Profiad o reoli sawl blaenoriaeth sensitif o ran amser
  14. Sgiliau cyfathrebu ardderchog, a phrofiad o ymwneud ag amryw randdeiliaid
  15. Y gallu i roi sylw i fanylion, gweithio’n rhesymegol, a chyflawni gwaith ymarferol
  16. Profiad o wahanol fathau o amgylcheddau TG
  17. Dealltwriaeth dda o’r we a chyfryngau cymdeithasol
  18. Y gallu i reoli a chymell pobl eraill
  19. Dealltwriaeth o ddeddfau/materion sy’n ymwneud â diogelu data a pharchu cyfrinachedd
  20. Dealltwriaeth o’r diwydiant bysiau
  21. Ymrwymiad i sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol
  22. Parodrwydd i deithio yng Nghymru a theithio weithiau i rannau eraill o’r DU, a’r gallu i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o gael rhywfaint o rybudd

Dyddiad dechrau: Canol mis Gorffennaf

Caiff y cyfweliadau eu cynnal ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018.

I ymgeisio am y swydd uchod, dylech anfon eich CV a llythyr eglurhaol sy’n nodi pam yr ydych o’r farn mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, nad yw’n fwy na 2 ddalen A4 o hyd.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae Bus Users UK wedi ymrwymo i amrywiaeth a chydraddoldeb ac mae’n croesawu ceisiadau gan bawb.

Cliciwch yma i ymgeisio am y swydd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon