Newyddion

Catch the bus week

Stagecoach yn Ne Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws yn hybu teithio ar y bws fel ffordd o wneud y defnydd gorau o amser teithwyr

12 Gorffennaf 2018

Ymunodd Stagecoach yn Ne Cymru â’r grŵp trafnidiaeth gynaliadwy, Greener Journeys, i hybu manteision defnyddio’r bws yn ystod Wythnos Dal y Bws, a gynhaliwyd eleni am y bumed flwyddyn.

Nod yr ymgyrch, a gynhaliwyd rhwng 2 ac 8 Gorffennaf, yw codi ymwybyddiaeth o fanteision teithio ar y bws, annog pobl leol i ddefnyddio’r bws yn lle’r car am wythnos, a’u hannog i ystyried gadael y car gartref ar gyfer rhai teithiau yn y dyfodol.

Yn ystod Wythnos Dal y Bws 2018, bu Stagecoach yn Ne Cymru yn cynnal rhaglen o weithgareddau hyrwyddo ar draws yr ardal er mwyn annog pobl i roi cynnig ar deithio ar y bws.

Erbyn hyn, mae’n haws i deithwyr deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gydag ap Stagecoach Bus ar gyfer ffonau clyfar. Mae’r ap yn cynnig cyfleuster cynllunio taith, gwybodaeth am yr arhosfan nesaf a chyfleuster tracio bysiau mewn amser real, ac mae’n galluogi cwsmeriaid i brynu tocynnau bws a’u lawrlwytho yn syth i’w ffôn symudol.

Cafodd taliadau digyffwrdd eu cyflwyno yn ne Cymru ym mis Chwefror 2018, sy’n golygu bod modd i deithwyr neidio ar unrhyw un o fysiau Stagecoach yn Ne Cymru a thalu’n ddidrafferth â’u cerdyn, sy’n gwneud eu teithiau’n haws fyth.

Mae teithio ar fws yn well i’r amgylchedd hefyd. Trwy ddewis teithio ar fws yn hytrach nag mewn car, mae teithwyr yn helpu i leihau lefel unrhyw allyriadau gwenwynig ar hyd ymyl y ffordd. Gwelwyd yn gyson, o blith yr holl wahanol fathau o gerbydau sy’n teithio ar y ffyrdd, mai bysiau sydd â’r lefelau isaf o allyriadau ocsidau nitrogen.*

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, wrth sôn am Wythnos Dal y Bws: “Mae’n amlwg bod teithio ar y bws yn lle gyrru yn arwain at fanteision amgylcheddol, ond gall teithio ar y bws arbed arian i bobl hefyd a lleihau’r straen sy’n gysylltiedig â gyrru a pharcio mewn trefi a dinasoedd prysur. Ein nod yw annog mwy o bobl yn ne Cymru i adael eu ceir gartref, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau Wythnos Dal y Bws 2018.”

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus, ewch i www.stagecoachbus.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon