Newyddion

Cael hwyl dros yr haf gyda Stagecoach yn Ne Cymru

Cael hwyl dros yr haf gyda Stagecoach yn Ne Cymru

27 Gorffennaf 2018

  • Mae Stagecoach wedi cyflwyno cynigion arbennig ar gyfer yr haf, a fydd ar gael o 25 Gorffennaf ymlaen
  • Diwrnodau allan dros yr haf, a fydd yn rhoi gwerth gwirioneddol am arian

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi lansio tocynnau newydd arbennig mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf.

Mae pris tocyn Dayrider i blentyn wedi gostwng i £2 yn y parthau canlynol: Aberdâr, Caerffili, Caerdydd, Caerdydd Plus, Cwmbrân, Merthyr Tudful, Merthyr Tudful Plus a Phont-y-pŵl. Mae pris tocyn Dayrider i blentyn yn y Rhondda wedi gostwng i £3. Gall plant 5-15 oed deithio gymaint ag y mynnant am ddiwrnod yn eu hardal leol.

Yn ogystal, mae’r tocyn 2gether ar gael bob dydd tan 2 Medi. Mae’r tocyn hwn yn galluogi dau oedolyn sy’n teithio gyda’i gilydd i deithio gymaint ag y mynnant am ddiwrnod ar fysiau ar draws holl rwydwaith Stagecoach yn Ne Cymru*, am £10 yn unig!

Meddai’r Rheolwr Marchnata, Rosa Williams: “Mae llwyth o bethau cyffrous yn digwydd yn ein hardal dros y misoedd nesaf, sy’n amrywio o Ŵyl Traeth Bae Caerdydd - sy’n para drwy’r haf - i ŵyl y Caws Mawr yng Nghaerffili, ac rydym am annog pobl i grwydro a mwynhau cynifer ag sy’n bosibl o’r digwyddiadau gwych hyn.

Rydym yn gwybod bod gwyliau’r haf yn gallu bod yn ddrud i deuluoedd a bod plant hŷn bob amser yn chwilio am bethau i’w gwneud. Dyna pam rydym nid yn unig yn cyflwyno tocynnau rhatach ond hefyd yn tynnu sylw at drysorau cudd ar draws y de nad ydynt yn debygol o gostio llawer o arian. Mae parciau, traethau, amgueddfeydd a gwyliau haf lleol sydd wedi’u hargymell gan ein cwsmeriaid yn cael sylw ar ein gwefan.”

http://stge.co/4pcc30l6P4r


Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon