Newyddion

Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant Yn Sbardun I Ymgyrch ‘Cyflawni Gyda'n Gilydd’ Stagecoach

Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant Yn Sbardun I Ymgyrch ‘Cyflawni Gyda'n Gilydd’ Stagecoach

25 Medi 2018

  • Gweithgareddau wedi’u cynllunio i helpu i ddathlu a hybu cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Cynhelir ymgyrch Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant o 24-30 Medi, a bydd yn nodi cychwyn menter bedair wythnos ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ Stagecoach

Mae cwmni bysiau Stagecoach yn Ne Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant.

Mae wythnos yr ymgyrch hefyd yn nodi cychwyn menter a fydd yn para pedair wythnos ar draws cwmnïau Stagecoach yn y DU.

Bydd Stagecoach yn Ne Cymru yn cynnal gweithgareddau i hybu cynhwysiant ac amrywiaeth yn rhan o Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, a gynhelir o 24-30 Medi gan y sefydliad Cyflogwyr Cynhwysol y mae Stagecoach yn aelod ohono.

Mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhwysiant yn y gweithle ac o fanteision cael gweithlu amrywiol a chynrychioliadol i’r busnes. Eleni, thema gyffredinol yr wythnos fydd ‘Cynhwysiant Cyffredin’.

Mae wythnos yr ymgyrch yn nodi cychwyn cyfres o ddigwyddiadau dros gyfnod o bedair wythnos ar draws Stagecoach wrth i’r Grŵp lansio ei fenter ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’, sy’n rhoi pwyslais ar nifer o feysydd allweddol gan gynnwys gwasanaethau i gwsmeriaid, diogelwch, llesiant, cymunedau a’r amgylchedd.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant bydd Stagecoach yn Ne Cymru yn gwneud y canlynol:

- Arddangos gwybodaeth am gynhwysiant yn y gweithle mewn mannau lle ceir staff

- Cyhoeddi negeseuon am gynhwysiant yn y gweithle ar Twitter

- Cyhoeddi blog gan Reolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru ar fewnrwyd y staff

- Cynnal bore coffi a chacen i annog staff i roi adborth ynghylch diffyg cynhwysiant, cynnig awgrymiadau a chael cyfle i ddod i adnabod ei gilydd

- Cynnal grŵp trafod ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod cyfarfod arloesi misol

Mae Stagecoach o’r farn bod cynhwysiant yn golygu sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, bod pobl yn gwrando arnynt a’u bod yn gallu herio’r busnes a chyfrannu iddo. Mae’n ymwneud â chydnabod a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau y mae pob person yn eu cynnig i’r gweithle, a chreu amgylchedd lle mae gan bawb fynediad i gyfleoedd ac adnoddau a lle gallant gyfrannu at lwyddiant y busnes.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, “Fel cyflogwr cynhwysol, rydym yn ymdrechu i greu gweithle sy’n derbyn ac yn croesawu pobl o bob cefndir. Mae ein gwasanaethau trafnidiaeth hefyd yn helpu i wella cynhwysiant cymdeithasol, trwy alluogi miliynau o bobl o bob cefndir i gael mynediad i waith a chyfleusterau hamdden, iechyd ac addysg, ac mae ganddynt rôl hollbwysig i’w chwarae yn ein cymunedau lleol.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon