Newyddion

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron

12 Hydref 2018

Nod yr ymgyrch anhygoel hwn yw codi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser y fron, a chodi arian hanfodol i gynorthwyo’r sawl y mae canser y fron yn effeithio arnynt. Mae’r arian hwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni gwaith ymchwil pellach er mwyn atal, diagnosio a thrin canser y fron.

Caiff 55,000 o bobl ddiagnosis o ganser y fron bob blwyddyn yn y DU, felly dyma’r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith menywod. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n goroesi canser y fron yn gwella ac wedi dyblu bron iawn yn ystod y 40 mlynedd diwethaf yn y DU.

 

Eleni, mae Gofal Canser Tenovus yn gofyn i chi gefnogi ‘Go Pink’ a ‘Know Your Lemons’.

Efallai yr hoffech chi gynnal bore coffi pinc, gwerthu cacennau yn y gwaith neu’r ysgol, gwisgo eich hoff ŵn llofft pinc, fflwffog neu gynnal digwyddiad yn eich cymuned leol. Sut bynnag y byddwch yn dewis dangos eich cefnogaeth a chodi arian drwy weithgarwch ‘Going Pink’, bydd yn siŵr o helpu’r sawl y mae canser y fron yn effeithio arnynt.

At hynny mae Gofal Canser Tenovus am godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser y fron, ac eleni mae’r elusen yn cydweithio ag ymgyrch ‘Know Your Lemons’ Worldwide Breast Cancer. Gall diagnosis cynnar fod yn hanfodol o safbwynt darparu triniaeth effeithiol, felly mae’n hollbwysig eich bod yn archwilio eich bronnau a’ch bod yn gwybod beth y dylech fod yn chwilio amdano.

 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch ddangos eich cefnogaeth yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, ewch i wefan Gofal Canser Tenovus.

Byddwn hefyd yn mynychu Cinio ‘Go Pink’ a ‘Know your Lemons’ i Fenywod ddydd Iau 18 Hydref. Gallwch archebu eich tocynnau ar-lein o hyd ar gyfer y digwyddiad ysbrydoledig hwn, neu gallwch ddilyn ein tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol @travelinecymru a @tenovuscancer i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y diwrnod.

Caiff 8 o fenywod ddiagnosis o ganser y fron yng Nghymru bob dydd. Gwnewch beth bynnag y gallwch chi i godi ymwybyddiaeth, codi arian a dangos eich cefnogaeth.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon