Newyddion

TFW

Traveline Cymru yn cydweithio â masnachfraint newydd ar gyfer rheilffyrdd

19 Hydref 2018

Wrth i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru baratoi i fwynhau masnachfraint newydd sbon ar gyfer rheilffyrdd, sy’n werth £5 biliwn, bydd Traveline Cymru yn helpu i hwyluso siwrneiau i deithwyr.

Yn dilyn y newyddion y bydd Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid rheilffyrdd Cymru yn ystod y 15 mlynedd nesaf, mae Traveline Cymru wedi ymuno â’r sefydliad i ddarparu cymorth dwyieithog cynhwysfawr i’w gwsmeriaid.

Bydd canolfan gyswllt y cwmni yn y gogledd, y mae cyfradd bodlonrwydd ei chwsmeriaid yn 99%, wrth law i ddarparu gwasanaeth dwyieithog helaeth. Bydd y gwasanaeth hwnnw’n cynnwys ateb ymholiadau hollbwysig, ymdrin ag eiddo coll a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth er mwyn galluogi defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i barhau i deithio.

Bydd gwasanaeth y ganolfan i gwsmeriaid hefyd yn cynnwys galwadau Cymraeg ar gyfer y sawl y mae arnynt angen cymorth i deithio, ac archebu cymorth mewn gorsafoedd er mwyn helpu pobl anabl i deithio.

O ganlyniad i’r cydweithredu hwn rhwng Traveline Cymru a Trafnidiaeth Cymru, bydd teithwyr hefyd yn gallu defnyddio gwefan ddwyieithog Traveline Cymru a’i ap ar gyfer dyfeisiau symudol i gael y newyddion diweddaraf ac adnoddau hanfodol megis Cynlluniwr Taith defnyddiol.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bennod nesaf hon yn natblygiad trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i Trafnidiaeth Cymru baratoi i drawsnewid y gwasanaeth rheilffyrdd presennol.

“Mae ennill y contract deniadol hwn yn tystio i waith caled aelodau ein tîm, ac i’r gwasanaeth ardderchog y maent yn dal i’w ddarparu ledled Cymru. Rydym wrth ein bodd o fod yn cydweithio â Trafnidiaeth Cymru.

“Mae’r cwsmer bob amser wrth wraidd pob peth a wnawn ac rydym yn ymdrechu i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf posibl am deithio, ar gyfryngau traddodiadol a digidol, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ble bynnag y maent. P’un a ydynt yn defnyddio ein gwasanaeth rhadffôn, ein ap neu ein gwefan, bydd pobl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth y mae arnynt ei hangen pryd bynnag y mae arnynt ei hangen.

“Rydym yn edrych ymlaen at hwyluso siwrneiau i deithwyr wrth iddynt ddechrau defnyddio’r gwasanaeth rheilffyrdd newydd a chyffrous hwn ledled y wlad.”

Meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Masnachol a Chwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Traveline Cymru ar ôl i’n masnachfraint gychwyn. Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth o’r radd flaenaf yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n cynnig gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n wasanaeth heb ei ail, o’i ganolfan yn y gogledd. Bydd y gwasanaeth yn hollbwysig wrth i ni geisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson i’n cwsmeriaid. Bydd y bartneriaeth hon hefyd yn sicrhau cysondeb rhwng y fasnachfraint flaenorol a’r fasnachfraint hon, ac rydym yn disgwyl i’r berthynas fynd o nerth i nerth.”

 

Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau at Shelley Phillips yn jamjar PR 01446 771265 / shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon