Newyddion

Cardiff Parkway Developments Ltd

Gorsaf drenau newydd ‘parcio a theithio’ ar brif reilffordd de Cymru yn agor yn 2022

29 Ionawr 2019

  • Bydd gorsaf drenau Parkway Caerdydd yn Llaneirwg, ar y rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain. Bydd yr orsaf rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
  • Bydd y prosiect yn cael ei redeg gan South Wales Infrastructure Ltd (SWIL), sef menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, y cwmni gwasanaethau ariannol Investec, a’r ddau entrepreneur Nigel ac Andrew Roberts.
  • Maes o law bydd y prosiect hefyd yn cynnwys ardal fusnes o bwys, a fydd yn cynnwys tair miliwn o droedfeddi sgwâr o swyddfeydd ar gyfer oddeutu 5,000 o weithwyr.

Bydd y cais cynllunio ar gyfer y prosiect yn cael ei brosesu yn ystod yr haf eleni, a bwriedir i’r orsaf drenau fod yn weithredol erbyn haf 2022. Os bydd y broses gynllunio’n llwyddiannus, disgwylir y bydd y gwaith ar yr orsaf ‘parcio a theithio’ newydd yn dechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae SWIL yn hyderus y gall sicrhau’r cytundeb sy’n ofynnol er mwyn i orsaf Parkway Caerdydd fod yn rhan o fasnachfraint nesaf prif reilffordd Great Western, ar gyfer gwasanaethau rhwng Cymru a gorsaf Paddington yn Llundain.

Mae’r fenter hefyd yn rhagweld y bydd gorsaf Parkway Caerdydd yn arhosfan pwrpasol ar y llwybr rhwng de Cymru a gorsaf Temple Meads ym Mryste. Bydd hynny o gymorth i hybu cysylltiadau economaidd a gwasanaethau amlach rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Megis dechrau y mae’r gwaith o ddatblygu’r prosiect, a fydd yn cynnwys gorsaf drenau newydd ac ardal siopa a fydd yn cael ei hadeiladu dros 4 o reilffyrdd wedi’u trydaneiddio. Yn ogystal, bydd yno 2,000 o leoedd parcio i ddefnyddwyr trenau. Byddai cynlluniau ar gyfer y tymor hwy’n cynnwys datblygu swyddfeydd ar gyfer hyd at 5,000 o weithwyr busnes, gyda golygfeydd godidog dros sgwâr cyhoeddus y parc busnes.

Y gobaith yw y bydd cyfleuster ‘parcio a theithio’ yr orsaf yn annog ymwelwyr i beidio â defnyddio eu cerbydau wrth fynychu digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth yn y brifddinas, ac y bydd hynny’n lleihau tagfeydd yng nghanol y ddinas ac yn hybu ei strategaeth ar gyfer aer glân.

Dim ond 8 munud y bydd yn ei gymryd i deithio ar y trên o orsaf Parkway Caerdydd i ganol Caerdydd, felly mae Cadeirydd SWIL, Nigel Roberts, yn credu y bydd yr ardal fusnes yn “gyfleuster newydd o bwys a fydd yn denu buddsoddiad i ardal ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddenu miloedd o swyddi a buddsoddwyr newydd”.

Bydd yr orsaf drenau a’r ardal fusnes hefyd yn gyrchfan yn eu rhinwedd eu hunain, a byddant yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau hamdden ac adloniant.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon