Newyddion

Stagecoach

Yr Adran Drafnidiaeth yn cefnogi cynlluniau Stagecoach yn Ne Cymru i fuddsoddi’n sylweddol mewn bysiau trydan ar gyfer Caerffili

07 Chwefror 2019

  • Bydd Stagecoach yn buddsoddi £3.6 miliwn mewn 16 o fysiau sy’n defnyddio trydan yn unig, drwy Gynllun Bysiau Allyriadau Isel Iawn yr Adran Drafnidiaeth
  • Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn rhoi cyllid grant gwerth £2.9 miliwn i gael fflyd o fysiau nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau o gwbl, a’r seilwaith sy’n gysylltiedig â hynny
  • Bydd fflydoedd gwyrdd o fysiau trydan yn cael eu cyflwyno rhwng 2019 a 2020
  • Bydd y cynlluniau’n hwb mawr i ansawdd yr aer yng Nghaerffili, i’r economi a chymunedau, ac i’r diwydiant gweithgynhyrchu yn y DU
  • Mae’n bosibl mai Caerffili fydd y dref gyntaf yn y DU a fydd yn darparu trafnidiaeth drydan yn unig i’r cyhoedd, oherwydd bydd gan y dref drenau trydan o 2021 ymlaen

Bydd Stagecoach yn sicrhau un o fuddsoddiadau unigol mwyaf Ewrop mewn bysiau trydan, a hynny yn y de ar ôl ennill gwerth £2.9 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth heddiw fod y fenter yn un o’r rhai sydd wedi cael y symiau mwyaf o arian yn y don ddiweddaraf o gyllid, a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o’r Cynllun Bysiau Allyriadau Isel Iawn. Bwriad y cynllun yw lleihau allyriadau a sicrhau teithiau glanach sy’n fwy caredig i’r amgylchedd.

Bydd Stagecoach, sef gweithredwr bysiau mwyaf Prydain, yn buddsoddi £3.6 miliwn yn y prosiect arloesol hwn a gefnogir gan Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru.

Bydd y buddsoddiad cyfun o £6.5 miliwn yn sicrhau fflyd newydd o 16 o fysiau nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau o gwbl, a’r seilwaith sy’n gysylltiedig â hynny, yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Disgwylir y bydd y bysiau trydan unllawr cyntaf arfaethedig yn dechrau gweithredu yn 2020, a byddant yn helpu i wella ansawdd yr aer yn lleol ac yn rhoi hwb i ddiwydiant gweithgynhyrchu’r DU.

Bydd cerbydau MetroCity a Solo newydd, y bydd pob un ohonynt yn gallu cludo rhwng 28 a 44 o deithwyr ac yn gallu teithio hyd at 190 o filltiroedd ar ôl cael eu gwefru’n llawn, yn cael eu cynhyrchu gan Optare, sef un o wneuthurwyr bysiau’r DU.

Yn ogystal, bwriedir buddsoddi mewn darparu seilwaith a bodloni’r gofynion o ran trydan mewn depos. Bydd peiriannau gwefru clyfar yn cael eu defnyddio er mwyn lleihau’r baich ar y cyflenwad trydan a sicrhau bod cynifer ag sy’n bosibl o gerbydau ar gael.

Mae Stagecoach eisoes ar y blaen i bawb arall yn y DU o safbwynt buddsoddi mewn technoleg bysiau hybrid, ac yn ystod y degawd diwethaf mae wedi buddsoddi dros £1 biliwn mewn bysiau newydd sy’n fwy caredig i’r amgylchedd.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: "Bydd y cerbydau newydd hyn, nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau o gwbl ac a fydd hefyd yn cynnwys technoleg glyweled ar gyfer rhannu gwybodaeth am yr arhosfan nesaf, yn helpu i wella profiad y cwsmer yn sylweddol ac yn helpu i leihau lefelau C02, N0x a gronynnau. Bydd hynny’n gwella ansawdd yr aer yn lleol ac yn annog cymudwyr i roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir a dechrau defnyddio bysiau sy’n fwy clyfar ac sy’n fwy caredig i’r amgylchedd.

"Mae’n rhan o gynllun uchelgeisiol ehangach i gydweithio â’r sector cyhoeddus a phartneriaid ym maes technoleg i greu rhwydwaith trafnidiaeth i’r cyhoedd yng Nghaerffili, sy’n cynnwys cerbydau trydan yn unig, oherwydd bydd gan y dref drenau trydan newydd o 2021 ymlaen a bwriedir gwneud cais arall am fysiau trydan."

Bydd cynlluniau Stagecoach yn golygu bod y bysiau trydan newydd yn disodli’r cerbydau Euro III confensiynol sydd yn nepo’r cwmni yng Nghaerffili. Bydd seilwaith gwefru helaeth yn ei gwneud yn bosibl i’r bysiau gael eu gwefru yr un pryd ac yn awtomatig, gan ddefnyddio trydan yn ystod cyfnodau tawel.

Bydd cyflwyno bysiau trydan newydd yn ei gwneud yn bosibl i’r cerbydau allyriadau carbon isel a ddefnyddir ar hyn o bryd gael eu symud i lwybrau eraill sy’n gwasanaethu’r rhanbarth. Bydd hynny’n golygu bod modd cael gwared â’r bysiau hŷn sy’n cydymffurfio â’r safonau blaenorol ar gyfer allyriadau, a fydd yn sicrhau bod lefelau cyffredinol allyriadau’n cael eu gostwng ymhellach.

Bydd y fflyd newydd o fysiau trydan ar gyfer y de’n golygu 572 yn llai o dunelli o CO2 bob blwyddyn (o gymharu â bysiau diesel Euro VI, ond bydd yr arbedion yn fwy na hynny mewn gwirionedd gan mai cerbydau Euro III fydd yn cael eu disodli) a bydd hefyd yn cefnogi Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer y rhanbarth. Amcangyfrifir bod aer gwael yn cyfrannu at dros 1,320 o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn, a bod 13,549 o flynyddoedd bywyd yn cael eu colli yng Nghymru oherwydd gronynnau bach sydd yn yr aer. Amcangyfrifir hefyd bod allyriadau ceir a faniau’n costio £6 biliwn y flwyddyn i’r GIG ac i’r gymdeithas ledled y DU.

Yn ogystal, bydd menter arloesol Stagecoach yn helpu i gyflymu’r gwaith o gyflwyno bysiau trydan ar draws Ewrop. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 725,000 o fysiau yn gweithredu ar draws Ewrop ond amcangyfrifir mai dim ond 2,500 o’r rheini sy’n fysiau trydan yn unig.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach drwy ffonio 01738 442111 neu drwy anfon ebost i: media@stagecoachgroup.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon