Newyddion

Stagecoach Gold Buses

Bysiau glanach a mwy gwyrdd gan Stagecoach yn Ne Cymru ar gyfer teithwyr yng Nghoed-duon, Casnewydd a Chaerdydd

17 Mai 2019

  • Dros £4 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn 24 o gerbydau a fydd yn gweithredu ar wasanaeth 151 rhwng Coed-duon a Chasnewydd ac ar wasanaeth 26 rhwng Coed-duon a Chaerdydd
  • Mae Stagecoach wedi ymrwymo i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd, Casnewydd a Chaerffili drwy gyflwyno injans Euro VI glanach sy’n cynnwys technoleg sy’n diffodd yr injan pan fydd y bws yn llonydd

Bydd cwsmeriaid yn gallu mwynhau teithiau mwy pleserus yn awr gan fod Stagecoach yn Ne Cymru wedi cyhoeddi y bydd bysiau aur yn gweithredu ar ddau wasanaeth o Goed-duon i Gasnewydd ac o Goed-duon i Gaerdydd. 

Bydd y fflyd sy’n werth £4 miliwn i’w gweld ar y ffyrdd ddydd Llun 13 Mai. Bydd 15 o fysiau’n gweithredu ar wasanaeth 151 rhwng Coed-duon a Chasnewydd drwy Crosskeys, Rhisga, Tŷ-du a Bassaleg Rd, a bydd 9 o fysiau’n gweithredu ar wasanaeth 26 rhwng Coed-duon a Chaerdydd heibio i Ysbyty Ystrad Fawr a thrwy Gaerffili a’r Eglwys Newydd. Mae gan bob cerbyd injan Euro VI sy’n garedig i’r amgylchedd ac sydd â lefel isel o allyriadau carbon; technoleg sy’n diffodd yr injan pan fydd y bws yn llonydd; a’r offer diweddaraf ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng.

Maent hefyd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer tracio bysiau, sy’n galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio ap Stagecoach ar gyfer dyfeisiau symudol i dracio bws mewn amser real, ble bynnag y maent. Bydd cwsmeriaid yn teithio mewn cerbydau moethus a fydd yn cynnig seddi sydd â chefnau uchel ac sydd wedi’u gorchuddio â lledr ecogyfeillgar; mwy o le i’r coesau; cyfleuster Wi-Fi rhad ac am ddim; a sawl man gwefru USB lle gallant wefru eu ffonau symudol. Bydd cyhoeddiadau llafar a gwybodaeth weledol ddwyieithog am yr arhosfan nesaf yn sicrhau bod teithwyr yn cael gwybodaeth ychwanegol am eu taith.

Mae gwasanaethau 151 a 26 yn ymuno â gwasanaethau aur 1/2/5/6/7 yng nghanol tref Cwmbrân, a gyflwynwyd yn 2018. Cafodd gwasanaeth aur 132 ei lansio yn 2016 ac mae’n teithio o Faerdy i Gaerdydd. Cafodd y gwasanaeth aur cyntaf, sef gwasanaeth X24, ei lansio yn 2015 ac mae’n teithio o Flaenafon i Gasnewydd drwy Bont-y-pŵl a Chwmbrân.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae bysiau’n hollbwysig i economi a chymunedau ein rhanbarth. Maent yn cludo pobl i’w gwaith, maent yn dod â chwsmeriaid i’r stryd fawr yn ein trefi, maent yn helpu pobl ifanc i gael addysg ac maent yn dod â theuluoedd, ffrindiau a chymunedau ynghyd.

Yn ogystal â’r ffaith bod pob gwasanaeth yn cynnig dull gwell o deithio i bobl leol ac yn galluogi teithwyr i dalu am eu tocynnau â thechnoleg ddigyffwrdd a ffonau symudol, bydd y cerbydau hyn hefyd yn gwella ansawdd yr aer yn lleol ac yn helpu i leihau tagfeydd yng Nghasnewydd drwy gynnig dull moethus o deithio yn lle’r car.”

Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Economi, Seilwaith, Cynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn yn fawr iawn. Yn ogystal â darparu trafnidiaeth gyhoeddus well i’n trigolion ac i gymudwyr ac ymwelwyr, bydd hefyd yn helpu i sicrhau manteision amgylcheddol go iawn. Rhaid i ni ganmol ein partner Stagecoach am ymrwymiad a buddsoddiad parhaus y cwmni i’r gwaith o ddarparu dewisiadau amgen gwirioneddol yn lle’r car, er mwyn galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd o ran cyflogaeth a gweithgareddau hamdden.”

Meddai Nigel Winter wedyn: “Mae 32% o fysiau Stagecoach sy’n gweithredu yng Nghaerdydd o safon Euro VI, a bydd y ganran honno’n codi i 47% yn ystod yr haf pan fydd bysiau newydd yn cael eu cyflwyno ar wasanaethau T4 a T14. Erbyn y flwyddyn newydd, bydd y ganran yn codi i 54% wrth i fysiau trydan a bysiau Euro VI newydd ymuno â’r fflyd. Rydym yn awyddus i wneud mwy fyth a chyflwyno rhagor o fysiau â lefel isel iawn o allyriadau yn ardal Caerdydd, ond er mwyn crynhoi buddsoddiad sy’n werth sawl miliwn o bunnoedd mae arnom angen cymorth ar ffurf cyllid wedi’i dargedu yn ogystal â sefydlogrwydd hirdymor yn y farchnad, y mae modd ei sicrhau drwy weithio mewn partneriaeth.

At hynny, mae’n bwysig cael dull strategol cywir o fynd i’r afael â’r broblem sy’n ymwneud ag ansawdd yr aer. Mae 41% o’r allyriadau sy’n deillio o drafnidiaeth ar y ffyrdd yn dod o geir diesel ac mae 30% o’r allyriadau yn dod o faniau diesel, o gymharu â 6% ar gyfer bysiau. Felly, dylai camau gweithredu gan lunwyr polisi’n ymwneud â bysiau fod yn canolbwyntio ar y llygrwr pennaf, sef ‘y car’, ac nid ar y targed hawsaf yn rhy aml o lawer, sef ‘y bws’.

Rydym yn dal i fuddsoddi’n sylweddol yn ein fflyd er mwyn gwella profiad y teithiwr. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £30 miliwn mewn bysiau newydd sydd ag injans glanach. Mae ein bysiau aur wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, ac rydym yn gobeithio y bydd y moethusrwydd ychwanegol sydd ynddynt yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy gynnig taith sydd nid yn unig yn fwy pleserus ond sydd hefyd yn fwy cynhyrchiol oherwydd bod y cerbydau’n cynnwys cyfleuster Wi-Fi rhad ac am ddim a mannau gwefru USB.”

I ddathlu’r lansiad swyddogol heddiw, roedd bws newydd mewn lifrau aur yn cael ei arddangos yn Sgwâr y Farchnad Coed-duon er mwyn i’r sawl a oedd yn pasio gael ei weld a mynd i mewn iddo cyn i’r bws ddechrau cludo teithwyr. Mae gwasanaeth 151 yn gweithredu hyd at bob 10 munud yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bob awr ar ddydd Sul, ac mae gwasanaeth 26 yn gweithredu hyd at bob 30 munud yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bob awr ar ddydd Sul.

Mae’r llawr isel sydd wrth ddrws bysiau aur Stagecoach yn golygu bod mynd i mewn i’r cerbyd yn haws i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn a chadair wthio a’r sawl sydd ag anawsterau symud. Gellir cludo cadair olwyn yn ddiogel ar bob cerbyd, ac mae’r gyrwyr wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth os bydd angen.

Yn ogystal â’r camau sydd wedi’u cymryd i wella gwasanaethau, mae llwybr bws newydd ar gael yn awr hefyd ar gyfer y sawl sy’n teithio rhwng Caerffili ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Ers 12 Mai mae Stagecoach wedi addasu ei lwybr rhif 50 presennol fel a ganlyn:

  • Bydd y rhan o’r llwybr rhwng Caerffili a Chasnewydd yn gweithredu bob 20 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd dau fws yr awr yn parhau i deithio’n ôl ac ymlaen i Fargoed ond bydd un o’r bysiau hynny’n gweithredu fel llwybr newydd rhif 50A.
  • Bydd bysiau ar lwybr rhif 50A yn gweithredu’n ôl ac ymlaen i Gasnewydd heibio i Barc Tredegar, Cardiff Road ac Ysbyty Brenhinol Gwent, yn hytrach na heibio i Gaer Park a The Handpost.
  • Bydd bysiau ar lwybr rhif 50 yn parhau i weithredu ar hyd eu llwybr presennol heibio i Gaer Park, The Handpost a St Woolos.
  • Mae’r llwybr newydd wedi’i gyflwyno mewn ymateb i geisiadau yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi’u cael gan drigolion.

Ynglŷn â Stagecoach yn Ne Cymru: 

  • Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn darparu gwasanaethau bws lleol ledled y de-ddwyrain. Mae hefyd yn gweithredu’r gwasanaeth Megabus rhwng Caerdydd a Llundain.
  • Mae amserlenni’r gwasanaethau aur i’w gweld ar y dudalen bwrpasol sydd ar y wefan
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon