Newyddion

Stagecoach yn Ne Cymru yn darparu cysylltiadau bws i Ysbyty Brenhinol Gwent

Stagecoach yn Ne Cymru yn darparu cysylltiadau bws i Ysbyty Brenhinol Gwent

19 Mehefin 2019

Cyfarfu Rheolwr Marchnata Stagecoach yn Ne Cymru â Wayne David AS dros Gaerffili, Hefin David AC dros Gaerffili, y Cynghorydd David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Mrs Quartely i ddathlu llwybr bws newydd ar gyfer teithwyr sy’n teithio rhwng Caerffili ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Mae Stagecoach wedi gwneud y newidiadau canlynol i lwybr presennol gwasanaeth 50:

  • Bydd y rhan o’r llwybr rhwng Caerffili a Chasnewydd yn gweithredu bob 20 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd dau fws yn parhau i deithio bob awr i/o Fargod, ond bydd un o’r bysiau hynny’n gweithredu fel llwybr newydd 50A.
  • Bydd y bysiau ar lwybr 50A yn gweithredu i/o Gasnewydd trwy Barc Tredegar, ar hyd Cardiff Road a heibio i Ysbyty Brenhinol Gwent yn hytrach na thrwy Gaer Park a heibio i The Handpost.
  • Bydd y bysiau ar lwybr 50 yn parhau i weithredu ar hyd eu llwybr presennol trwy Gaer Park a heibio i The Handpost ac Eglwys Gwynlliw.

Mae’r llwybr newydd wedi’i gyflwyno mewn ymateb i geisiadau a gafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan y trigolion.      
 
Meddai Rosa Williams, Rheolwr Marchnata Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym wedi gwrando ar adborth cwsmeriaid ynghylch cysylltiadau o Gaerffili i Ysbyty Brenhinol Gwent, a byddwn yn treialu dargyfeirio un daith yr awr heibio i’r ysbyty er mwyn asesu’r effaith ar y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac asesu’r effaith ar amserau’r gwasanaeth. Rydym yn gobeithio na fydd yn effeithio ar amserau’r gwasanaeth ac y bydd y gwasanaeth yn parhau’n brydlon ac yn boblogaidd er mwyn i ni allu ystyried cadw’r llwybr hwn yn yr hirdymor." 
 
Meddai’r Cynghorydd David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Rydym yn croesawu cyflwyno’r llwybr bws newydd i Ysbyty Brenhinol Gwent.  Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r bobl hynny sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i apwyntiadau yn yr ysbyty neu ymweld â’u hanwyliaid.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon