Newyddion

© BAFTA / Eisteddfod

Traveline Cymru yn bartner i Sinemaes yn Eisteddfod Genedlaethol 2019

25 Gorffennaf 2019

Mae Sinemaes yn brosiect arloesol a chydweithredol a gaiff ei gydlynu gan BAFTA Cymru, sy’n dod â phartneriaid ynghyd o bob rhan o’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru i gynnig gweithgareddau’n ymwneud â ffilm, dangosiadau a dosbarthiadau meistr i’r sawl sy’n dod i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl a gynhelir dros gyfnod o wythnos, sy’n dathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog. Mae’r ŵyl, a gaiff ei chynnal yn Llanrwst rhwng 3 Awst a 10 Awst, yn mynd i’r gogledd a’r de am yn ail flwyddyn.

Mae Traveline Cymru yn falch o fod yn bartner i Sinemaes yn yr ŵyl eleni, sef prosiect sy’n parhau i helpu cynulleidfaoedd i ddod i wybod mwy am ddoniau Cymru ar y sgrîn ac i ddod i wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer eu dyfodol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma’r pedwerydd tro i Sinemaes fod yn rhan o arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol – fe’i gwelwyd am y tro cyntaf yn 2016. Bydd y 150,000 o bobl a fydd yn dod i’r ŵyl yn gallu achub ar y cyfle i ymweld â phabell Sinemaes ar y Maes ac ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n rhan o raglen gyffrous 8 diwrnod o hyd. Mae’r rhaglen yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau hen a newydd, gweithdai i blant, panelau trafod, digwyddiadau rhwydweithio a dosbarthiadau meistr, a bwriad pob un ohonynt yw hyrwyddo cynyrchiadau Cymraeg ar y sgrîn. 

 

Mae uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys y canlynol:

  • Dydd Sadwrn 3 Awst – Dangosiad: Casgliad Sali Mali i ddathlu ei phen-blwydd yn 50
  • Dydd Llun 5 Awst – Dangosiad: Eich hoff raglen deledu comedi Cymraeg: RTS Cymru yn 60 oed
  • Dydd Mawrth 6 Awst – Gweithdy: Into Film Cymru
  • Dydd Mercher 7 Awst – Dangosiad a Thrafodaeth: Her Nesa’r Hinsawdd
  • Dydd Iau 8 Awst – Dathliad a Thrafodaeth: Cofio Heulwen Haf
  • Dydd Gwener 9 Awst – Gweithdy yng nghwmni aelodau o dîm sgriptio Pobol y Cwm
  • Dydd Gwener 9 Awst – Cyflwyniad: Pryd nad yw Lleoliad yn Lleoliad? – Gareth Skelding
  • Dydd Sadwrn 10 Awst – Cyflwyniad: Atgof Byw – Ffilm a Therapi’r Cof

 

Mae rhaglen lawn Sinemaes 2019 i’w gweld yma.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol neu Sinemaes.

 

Caiff Sinemaes ei gydlynu gan BAFTA Cymru gyda’r partneriaid canlynol: 

Into Film Cymru, RTS Cymru, Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, Canolfan Ffilm Cymru, Chapter, BBC Cymru Wales, BFI NET.WORK, TAC, Gorilla ac S4C. Darperir cynnwys ychwanegol gan It’s My Shout, Gŵyl Ffilm PICS, Coleg Cenedlaethol Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon