Newyddion

© John Davies of BayTrans

Ymwelwyr yn cael eu hannog i deithio i Fae Abertawe heb gar

31 Gorffennaf 2019

Mae rhanbarth godidog Bae Abertawe yn cynnwys dinas Abertawe a threfi cyfagos Castell-nedd a Phort Talbot, a’r ardaloedd gwledig hyfryd sydd o’u hamgylch ym mhenrhyn Gŵyr a chymoedd y gorllewin. Ar hyn o bryd, mae tua 90% o ymwelwyr â’r rhanbarth yn teithio yno mewn car.

Mae Twristiaeth Bae Abertawe wedi ymuno â BayTrans, y bartneriaeth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy a theithio’n gynaliadwy, i sicrhau bod y rhanbarth yn gyrchfan wirioneddol wyrdd. Mae’r fenter hon a weithredir ar y cyd yn ceisio newid canfyddiadau a rhoi gwybod i ymwelwyr bod holl harddwch Bae Abertawe o fewn cyrraedd i bawb, gan gynnwys y sawl nad oes ganddynt eu cerbyd modur eu hunain.

Mae’r sefydliadau wedi paratoi gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch teithio i’r rhanbarth, o’r rhanbarth ac o amgylch y rhanbarth heb gar. Mae’r wefan Bae Abertawe Heb Gar yn hyrwyddo twristiaeth fwy gwyrdd, a chanolbwyntir ar y rhesymau pam y mae pobl yn ymweld â’r ardal ynghyd â’r opsiynau teithio lleol ar gyfer ymweld â thraethau, cyrchfannau a gweithgareddau cyffrous.

Mae’r wefan Bae Abertawe Heb Gar yn cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, bysiau, llwybrau beicio a llwybrau cerdded, yn ogystal â gwybodaeth benodol a manylach am deithio ar gyfer ystod o atyniadau unigol a gwasanaethau lleol.

 

Partneriaeth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy a theithio’n gynaliadwy yw BayTrans, a  gefnogir gan awdurdodau lleol, gweithredwyr trafnidiaeth a sefydliadau cerdded a beicio.

Mae Twristiaeth Bae Abertawe yn sefydliad a chanddo aelodau, sy’n ymroi i hybu a gwella’r hyn sydd gan y rhanbarth i’w gynnig o safbwynt twristiaeth.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bae Abertawe Heb Gar.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon