Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi Chwyldro Rheilffyrdd ar y Sul ledled Cymru

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi Chwyldro Rheilffyrdd ar y Sul ledled Cymru

20 Tachwedd 2019

Bydd 186 o wasanaethau ychwanegol ar y Sul yn creu hwb economaidd ledled y wlad, gan ddarparu cysylltiadau hanfodol rhwng dinasoedd, trefi a phentrefi.  

Bydd teithwyr ar y rheilffordd yn gweld cyflwyno gwasanaeth ar y Sul i Maesteg am y tro cyntaf erioed, bydd gwasanaethau’n dyblu rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, bydd gwasanaethau tymhorol ychwanegol bellach yn rhedeg gydol y flwyddyn ar hyd Arfordir Gogledd Cymru a bydd trenau’n rhedeg yn amlach ar reilffyrdd y cymoedd.

Gan ddisgwyl y bydd hyn yn hybu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, bydd TrC yn creu gwasanaethau newydd ar y Sul rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog gan greu gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn.  Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiadau hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.  

Bydd lein Arfordir y Cambrian hefyd yn cael budd mawr, gan newid o un gwasanaeth y dydd ar y Sul i’r ddau gyfeiriad rhwng Machynlleth a Phwllheli i bum gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad.

 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae Trafnidiaeth yn sylfaenol i lwyddiant ein heconomi yng Nghymru, a bydd y cynnydd dramatig hwn yn nifer y gwasanaethau ar y Sul yn cynyddu cysylltiadau rhwng ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi, gan ddarparu hwb i fusnesau lleol a helpu i wella bywydau pobl ar draws Cymru.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn gwella mynediad ar gyfer cyfleoedd cymdeithasol, hamdden ac addysgol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth.  Bydd gwasanaethau hwyrach hefyd yn cynyddu opsiynau i bobl allu mynychu digwyddiadau’n hwyr y nos ledled y wlad.”

 

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i roi i gwsmeriaid y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu ar ddydd Sul ac rydym yn falch iawn o allu gwneud y gwelliannau hyn. Bydd rhai llinellau, na fu ganddynt wasanaeth ar y Sul erioed o’r blaen, bellach yn cael eu cysylltu, gan roi mwy o fanteision hamdden ac economaidd i lawer iawn o ardaloedd.

“Mae llawer iawn o waith caled wedi mynd i mewn i ddatblygu’r amserlen hon ar gyfer ein cwsmeriaid ac rydym yn hynod falch ein bod wedi ei chwblhau. Rydyn ni wedi gweld cydweithio gwych gyda’n partneriaid yn Network Rail i sicrhau mynediad ar gyfer gwasanaethau cynharach yn y bore a hwyrach yn y nos, drwy symud amseroedd gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd, a hoffwn ddiolch i bawb cysylltiedig am eu gwaith caled.”

 

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’r cynnydd sylweddol hwn mewn gwasanaethau ar y Sul yn ymrwymiad pwysig a wnaed gennym wrth lansio ein gwasanaeth rheilffyrdd newydd dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n dilyn lansiad llwyddiannus ein hamserlen ym Mai 2019, pryd y cyflwynwyd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Wrecsam am y tro cyntaf mewn degawdau. Rydym yn gobeithio y bydd ein cwsmeriaid a’n darpar-gwsmeriaid yn croesawu’r gwasanaethau hyn fel cam pwysig yn y gwaith o adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn wirioneddol falch ohono.”

 

Ychwanegodd Philip Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy:

“Mae’n newyddion gwych bod Trafnidiaeth Cymru wedi dangos eu hymrwymiad i Ddyffryn Conwy drwy gyflwyno gwasanaethau trên ar ddydd Sul yn ystod y gaeaf, yn ogystal â chysylltiad rheolaidd o Landudno i'r rhwydwaith bob diwrnod.  Mae’r newid hwn yn ateb gofynion lleol ac yn cydnabod effaith yr hyn sy’n cael ei gynnig i dwristiaid yn yr ardal drwy gydol y flwyddyn.”

 

Mae cadarnhau y gwasanaethau ychwanegol ar ddydd Sul yn dilyn cyhoeddiad TrC am gynyddu capasiti ar gyfer gwasanaethau ar ddyddiau’r wythnos y mis Rhagfyr hwn, sy’n cynnwys:

  • Bydd rheilffyrdd y Cymoedd yn gweld mwy o drenau â phedwar cerbyd ar y gwasanaethau prysur, ynghyd â newidiadau eraill i'r cerbydau, gan greu lle i hyd at 6,500 yn fwy o gymudwyr bob wythnos.
  • Bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy yn cael y fantais o ddefnyddio trenau modern Dosbarth 170 sydd â rhagor o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, system awyru, Wi-Fi a socedi pŵer.
  • Bydd teithwyr sy’n teithio’n bell ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern ‘Mark 4 intercity’.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon