Newyddion

Cwsmeriaid GWR sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i dde Cymru yn cael budd am y tro cyntaf o wasanaethau rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio

Cwsmeriaid GWR sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i dde Cymru yn cael budd am y tro cyntaf o wasanaethau rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio

10 Ionawr 2020

  • Amcangyfrifir y bydd siwrnai arferol teithwyr rhwng de Cymru a Llundain oddeutu 14 munud yn fyrrach.
  • Bydd trenau ychwanegol yn gweithredu yn ystod y cyfnodau prysuraf a bydd tua 15,000 yn rhagor o seddau ar gael yn gyffredinol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Roedd trydaneiddio dros 150 o filltiroedd o draciau rhwng Caerdydd a Llundain yn rhan o’r prosiect moderneiddio mawr hwn.

Ddydd Sul 5 Ionawr buodd GWR yn rhedeg trenau trydan yn ôl ac ymlaen i dde Cymru am y tro cyntaf, gan sicrhau manteision o bwys i Gymru.

Mae’r datblygiad yn dilyn llawer o waith peirianyddol yn ystod cyfnod y Nadolig er mwyn gallu cyrraedd carreg filltir arall yn y broses o foderneiddio rhwydwaith Great Western.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Interim GWR, Matthew Golton: “Mae’n bleser mawr gen i ddweud bod cam olaf y broses drydaneiddio, ac eithrio Twnnel Hafren, wedi’i orffen ddoe. Bydd hynny’n ein helpu i ddarparu gwasanaethau amlach, mwy o seddau a theithiau cyflymach i gwsmeriaid.

“Roedd yn wirioneddol bwysig i fi fy mod i yn ne Cymru i ddathlu’r garreg filltir hon ar gyfer ein gwasanaethau.”

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, buodd peirianwyr Network Rail yn gweithio ddydd a nos rhwng 24 Rhagfyr a 2 Ionawr 2020 i droi’r trydan ymlaen drwy offer y llinellau uwchben rhwng Llansanffraid Gwynllŵg, Casnewydd a’r ardal sydd i’r gorllewin o orsaf Caerdydd Canolog, cyn i’r profion olaf gael eu cynnal.

At hynny buodd peirianwyr Network Rail yn gweithio rhwng 24 Rhagfyr a 2 Ionawr yn yr ardal sydd i’r dwyrain o orsaf Casnewydd er mwyn gosod llawer o draciau newydd yn lle hen rai; adnewyddu’r pwyntiau a’r croesfannau sy’n galluogi trenau i fynd o’r naill drac i’r llall; adnewyddu ymylon platfform dau, tri a phedwar; a gwneud rhai addasiadau i offer y llinellau uwchben.

Cafodd y profion olaf eu cynnal yn ardal Caerdydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan alluogi trenau cyflym rhyngddinesig GWR i redeg ar drydan rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Paddington yn Llundain o ddydd Sul 5 Ionawr ymlaen.

Meddai Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail, Bill Kelly: “Nadolig yw’r cyfnod tawelaf ar y rheilffyrdd, a dyna pam mae ein gwaith peirianyddol mawr yn digwydd yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Hoffem ddiolch i’n teithwyr a’n cymdogion ar hyd y rheilffyrdd am eu hamynedd dros yr ŵyl.

“Bydd canlyniadau’r gwaith trydaneiddio yn arwain at fanteision enfawr i deithwyr am flynyddoedd i ddod, ar ôl i wasanaethau trydan gychwyn am y tro cyntaf rhwng Caerdydd a Llundain ar 5 Ionawr. At hynny, mae’r gwaith yng Nghasnewydd wedi gwneud y rheilffordd yn fwy gwydn a dibynadwy i deithwyr am flynyddoedd i ddod.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Great Western Railway

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon