Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd i hwyluso cyfathrebu ar gyfer cwsmeriaid byddar
10 Chwefror 2020Mae’r ap o’r enw “InterpreterNow” yn defnyddio system debyg i alwad fideo i wneud cyfathrebu rhwng cydweithwyr ar y rheilffyrdd a chwsmeriaid byddar yn haws fyth.
Gall cwsmeriaid lawrlwytho’r ap rhad ac am ddim a defnyddio galwad fideo i gyfathrebu â dehonglwr drwy gyfrwng iaith arwyddion, a fydd wedyn yn rhannu ymholiad y cwsmer ag aelod o staff Trafnidiaeth Cymru.
Bydd y dehonglwr yna’n gallu mynegi’r ateb wrth y cwsmer drwy gyfrwng iaith arwyddion.
Meddai Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru, Dr Robert Gravelle: “Rydym yn hynod o falch mai ni yw’r darparwr trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymorth o’r fath ar gyfer pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
“Mae pob un o gwsmeriaid ein rhwydwaith yn bwysig i ni, ac os oes technoleg ar gael i wneud eu bywyd yn haws mae’n amlwg y dylem ei defnyddio.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ap hwn yn ein helpu i gymryd cam arall tuag at gynnig teithiau cwbl hygyrch i bob un o’n cwsmeriaid.”
Cafodd yr ap ei lansio’n swyddogol yr wythnos hon mewn partneriaeth â Chanolfan Pobl Fyddar Caerdydd, a chafodd yr aelodau eu gwahodd i roi prawf ar yr ap ar daith fer.
Cafodd yr ap ei ganmol yn fawr gan yr aelodau.
Meddai Edward Jenkins BEM, Is-gadeirydd Pobl Fyddar Caerdydd:
“Mae’n anhygoel bod modd i berson byddar gael dyfais fel hon yn ei boced, sy’n hwyluso cyfathrebu fel hyn. Bydd yn eu galluogi i fanteisio ar nifer o gyfleoedd na fyddent ar gael iddynt fel arall. Mae’n wych gallu cyrraedd yr orsaf a defnyddio dull mor hawdd â hwn i ddweud wrth rywun beth rydych am ei gael.”
Meddai Jonathan Bosman, un o’r bobl fyddar a dreialodd yr ap yng ngorsaf Caerdydd Canolog:
“Mae’n wych peidio â gorfod ysgrifennu popeth ar bapur, sy’n gallu bod yn llafurus. Mae mynd i’r swyddfa docynnau wedi bod yn eithaf anodd erioed o safbwynt cyfathrebu, ac mae’r ap hwn yn gwneud y profiad hwnnw dipyn yn haws. Rwy’n edrych ymlaen at ddod yn fwy cyfarwydd â’r ap ac at ei ddefnyddio yn y dyfodol.”
Cafodd yr ap ei ddatblygu gan InterpreterNow y mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o fod yn bartner iddo ar y prosiect hwn.
Meddai Jonathan Colligan, Swyddog Datblygu Busnes InterpreterNow: “Mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant wrth weithredu yn dangos bod Cymru yn wlad a chanddi ddiwylliant gwych a chymunedau agored.”
Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap InterpreterNow am ddim ar ddyfeisiau Android neu iOS drwy chwilio am InterpreterNow.
Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru