Newyddion

Y Llywodraeth yn cael ei hannog i “fanteisio i’r eithaf ar bŵer bysiau” wrth i adroddiad newydd ddangos bod Stagecoach yn helpu i gyfrannu £43 miliwn y flwyddyn i economi Cymru

Y Llywodraeth yn cael ei hannog i “fanteisio i’r eithaf ar bŵer bysiau” wrth i adroddiad newydd ddangos bod Stagecoach yn helpu i gyfrannu £43 miliwn y flwyddyn i economi Cymru

20 Chwefror 2020

  • Dadansoddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes
  • Mae gweithredwr bysiau mwyaf y DU yn helpu i gynnal 1 o bob 1,000 o swyddi ledled Prydain
  • Dadansoddiad rhanbarthol manwl o effaith economaidd a chymdeithasol Stagecoach yn cael ei ddatgelu am y tro cyntaf
  • Cwmni yn helpu i leihau tagfeydd traffig, damweiniau ac allyriadau a hybu gweithgarwch corfforol
  • Gall bysiau helpu i greu mannau mwy diogel, iach a llewyrchus i bobl fyw ynddynt
  • Bysiau trydan newydd i Gaerffili eleni

Mae awdurdodau Cymru yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar bŵer bysiau er budd cymunedau, wrth i ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw ddangos bod Stagecoach yn Ne Cymru yn helpu i gyfrannu dros £40 miliwn y flwyddyn i’r economi yng Nghymru.

Mae gwaith ymchwil annibynnol a gyflawnwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn dangos bod cyfanswm cyfraniad Stagecoach ledled y DU yn £1.63 biliwn y flwyddyn mewn Gwerth Ychwanegol Gros1, a bod £43 miliwn o’r cyfanswm hwnnw yng Nghymru.  

Cafodd Stagecoach ei sefydlu yn 1980, ac mae’n rhedeg gwasanaethau ar draws y de yng Nghaerdydd, Coed-duon, Caerffili, Bargod, Pontypridd, Cwmbrân, Aberhonddu, Bryn-mawr a Merthyr Tudful. Mae’n cludo dros 23 miliwn o deithwyr yn y de bob blwyddyn, yn cyflogi tua 880 o bobl ac yn rhedeg 340 o fysiau yn y rhanbarth.

Stagecoach yw gweithredwr bysiau mwyaf Prydain ac mae’n un o gyflogwyr mwyaf y sector preifat yn y DU. Mae’n cyflogi cyfanswm o 24,000 o bobl yn uniongyrchol ar draws y DU ac yn helpu i gynnal 10,000 o swyddi eraill. Mae Stagecoach yn cynnal un o bob 1,000 o swyddi yn y DU.

Mae’r adroddiad newydd, ‘How we support Britain’s economy and communities’, hefyd yn dangos y manteision a’r arbedion ariannol ehangach y mae gwasanaethau trafnidiaeth Stagecoach yn eu sicrhau trwy leihau tagfeydd traffig, gwneud y genedl yn fwy egnïol, gwarchod yr amgylchedd a chynorthwyo i greu cymunedau mwy diogel.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: "Rydym yn falch o fod wedi helpu i gynnal cysylltiadau ar gyfer teithwyr yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos yr effaith gadarnhaol enfawr y mae ein gwasanaethau trafnidiaeth yn ei chael ar yr economi a’n cymunedau ledled y DU.

 

"Wrth i ranbarthau ar hyd a lled y DU wynebu’r heriau sy’n gysylltiedig â ffyrdd gorlawn, ansawdd aer sy’n dirywio, afiechyd a phwysau ar y stryd fawr, mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn manteisio i’r eithaf ar bŵer bysiau i greu mannau mwy diogel, iach a llewyrchus i bobl fyw ynddynt."

Mae dadansoddiad y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn dangos bod pobl sy’n defnyddio bysiau Stagecoach yn hytrach na cheir yn helpu i osgoi gwerth miliynau o bunnoedd o wastraff adnoddau bob blwyddyn, a bod modd buddsoddi’r arbedion hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus gwell:

  • Cymunedau mwy diogel: £44.2 miliwn wedi’i arbed mewn costau sy’n gysylltiedig â damweiniau traffig ar y ffyrdd, megis enillion a gollwyd, costau meddygol, gwasanaethau brys a difrod i gerbydau, a allai dalu am dros 750 o feddygon teulu cyflogedig ychwanegol.
  • Cymunedau iachach: £13.3 miliwn wedi’i arbed mewn costau gofal iechyd, sy’n cyfateb i gost dros 83,000 o bobl yn cael eu gweld gan staff adrannau damweiniau ac achosion brys.
  • Cymunedau glanach: £12.4 miliwn wedi’i arbed mewn costau allyriadau, a allai bweru 9,800 o gartrefi am flwyddyn.
  • Cymunedau lle mae’n haws i bobl symud o le i le: gwerth £343 miliwn o arbedion posibl sy’n gysylltiedig â thagfeydd traffig, sy’n deillio o sicrhau 1.22 biliwn yn llai o filltiroedd o draffig. Gall pob bws deulawr dynnu dros 70 o geir oddi ar y ffyrdd.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn dal i sicrhau manteision uniongyrchol sylweddol i economi a chymunedau Prydain, oherwydd mae’n talu £21 miliwn y flwyddyn mewn cyflogau a buddion i’w weithwyr.

Meddai Cristian Niculescu-Marcu, Cyfarwyddwr Dadansoddi a Phennaeth Micro-economeg yn y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes: "Mae Stagecoach yn gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol sylweddol i economi’r DU, ac mae’n cynorthwyo i gynnal un o bob 1,000 o swyddi ac i gynnal cymunedau rhanbarthol ledled y wlad.

 

"Yn ogystal â’i effaith uniongyrchol, mae gwasanaethau trafnidiaeth Stagecoach yn helpu i leihau tagfeydd traffig, lleihau anweithgarwch corfforol a lleihau nifer y damweiniau traffig sy’n digwydd ar y ffyrdd. Mae’r cwmni hefyd yn chwarae rôl bwysig o safbwynt lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar adeg pan fo mwy o bwyslais nag erioed yn cael ei roi ar gamau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd."

Yn ystod gwanwyn 2020, bydd Stagecoach yn cyflwyno’r cerbydau cyntaf a fydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £13 miliwn mewn bysiau trydan newydd, sy’n un o’r archebion mwyaf yn Ewrop am fysiau o’r fath. Mae cyfanswm o bron 50 o e-fysiau trydan newydd yn cael eu cyflwyno ym Manceinion Fwyaf a Chaerffili. Erbyn diwedd 2020, bydd gan Stagecoach fwy o gerbydau trydan nag unrhyw un arall o brif weithredwyr bysiau’r DU. Mae allyriadau carbon o fusnesau Stagecoach wedi’u lleihau 14% dros y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad i becyn o fesurau a gyflwynwyd yn rhan o strategaeth gynaliadwyedd y cwmni.

Fis diwethaf, lansiodd Stagecoach ddelwedd newydd ar gyfer ei fysiau yn rhan o’i ymrwymiad ehangach i’w gwneud yn haws i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae Stagecoach wedi gwneud mwy na’r un gweithredwr bysiau arall ym Mhrydain i gyflwyno technoleg ddigyffwrdd er mwyn gwneud y system docynnau’n fwy syml. Mae hefyd wedi lansio ap bysiau newydd, sy’n cynnwys adnodd newydd ar gyfer cynllunio teithiau ar-lein, lle gall cwsmeriaid dracio eu gwasanaeth bws mewn amser real ar fap rhyngweithiol.

 

Mae copi llawn o’r adroddiad ‘How we support Britain’s economy and communities’ ar gael ar https://www.stagecoachbus.com/

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon