Newyddion

N.A.T. Group yn mynd yr ail filltir i gynnig help yn dilyn y llifogydd ym Mhontypridd

N.A.T. Group yn mynd yr ail filltir i gynnig help yn dilyn y llifogydd ym Mhontypridd

24 Chwefror 2020

Yn dilyn y llifogydd dinistriol a welwyd ledled y de’n ddiweddar mae N.A.T. Group, y gweithredwr bysiau lleol, wedi addo cynorthwyo’r bobl a’r busnesau sydd wedi dioddef effeithiau’r llifogydd.

Un o’r ardaloedd a gafodd eu taro waethaf oedd Pontypridd. Yno, cafodd llawer o siopau yn Taff Street eu difrodi a chafodd perchnogion busnes eu gorfodi i glirio’r annibendod a adawyd gan Storm Dennis.

Mae gan N.A.T. Group ddepo ym Mhontypridd, ochr yn ochr â’i ganolfannau gweithredu yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac mae’r cwmni wedi addo cynnig gostyngiad o 20% ar brisiau tocynnau wythnos a mis yn ardal Pontypridd er mwyn helpu’r sawl y mae angen iddynt deithio o gwmpas yn ystod y gwaith clirio. Mae N.A.T. hefyd wedi creu tudalen Just Giving er mwyn codi arian i’r dref hon yn Rhondda Cynon Taf, a bydd pob ceiniog yn mynd yn syth i gynorthwyo’r gwaith glanhau. At hynny mae N.A.T. Group, sydd wrthi’n newid ei enw i Adventure Travel, wedi creu safle ar eBay er mwyn gwerthu eitemau cofiadwy’r cwmni bysiau, ac unwaith eto bydd yr holl arian yn mynd tuag at helpu pobl yn dilyn y llifogydd.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr N.A.T. Group, Adam Keen: “Mae a wnelo bysiau â chymunedau. Ac mae hynny’n arbennig o wir am y Cymoedd lle mae’r llifogydd dinistriol wedi achosi difrod eang yn ystod y pythefnos diwethaf, ac yn enwedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf.

“Fel busnes ym Mhontypridd, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i allu cyfyngu ar effeithiau Storm Dennis ac rydym wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy lle bynnag y bo modd. Mae gweld yr effeithiau ar ein cymuned leol wedi bod yn erchyll ac rydym yn awyddus i wneud popeth allwn ni i helpu. Drwy greu’r tudalennau ar Just Giving ac eBay a gostwng prisiau tocynnau i bobl leol, rydym am wneud ein gorau glas i helpu’r bobl a’r busnesau a ddioddefodd effeithiau’r storm, a’u helpu i ddod yn ôl i drefn unwaith eto.”

Gall pobl roi arian drwy Just Giving. Bydd y cyfraniadau i gyd yn mynd yn syth i gronfa ‘Pontypridd Flooding Relief’ er mwyn cynnig cymorth ariannol i’r cartrefi a’r busnesau a ddioddefodd effeithiau Storm Dennis.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon