Newyddion

    Stagecoach yn Ne Cymru yn dangos negeseuon o gefnogaeth i weithwyr y GIG ar fysiau

Cymorth a mentrau gan y diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru wrth ymateb i’r Coronafeirws

27 Mawrth 2020

Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd mawr, mae llawer ohonom yn teimlo’n bryderus ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn y byd, diogelwch ein hanwyliaid, ac effaith COVID-19 ar ein bywydau o ddydd i ddydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig tynnu sylw at rai o’r straeon gwych a chalonogol am newyddion da sy’n digwydd ar draws y diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru wrth ymateb i COVID-19. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn gyson yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cofiwch ddod yn ôl i ddarllen am fentrau newydd a allai fod o help i chi neu’ch anwyliaid.

Cofiwch droi i’n tudalen Gwybodaeth am y Coronafeirws i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf gan weithredwyr cyn eich bod yn gwneud eich teithiau hanfodol.

 

 

Teithio am ddim i weithwyr y GIG

Bydd gweithwyr y GIG yn cael teithio am ddim ar fysiau ledled Cymru yn rhan o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru.

At hynny mae gweithredwyr wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw fws yn cludo mwy o deithwyr na hanner ei gapasiti, ac maent wedi ymrwymo i barhau i weithredu llwybrau ac amserlenni allweddol ar gyfer gweithwyr allweddol a’r sawl y mae angen iddynt deithio er mwyn siopa bwyd a diwallu eu hanghenion meddygol.

Mae’r gweithredwyr isod wedi cadarnhau y byddant yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio am ddim yn syth:

 

Arriva Cymru

Yn unol â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru, bydd cwmni Bysiau Arriva Cymru yn caniatáu i bob un o weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar ei fysiau. Dangoswch eich bathodyn adnabod dilys gan y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.

 

Bws Caerdydd

O ddydd Iau 26 Mawrth ymlaen nes y nodir yn wahanol, er mwyn cynorthwyo gweithwyr rheng flaen y GIG sy’n brwydro yn erbyn y pandemig coronafeirws, bydd gweithwyr y GIG yn gallu teithio am ddim ar bob un o wasanaethau Bws Caerdydd. Dangoswch eich cerdyn adnabod gan y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws, a byddwch yn gallu teithio am ddim.

 

Edwards Coaches

Bydd Edwards Coaches yn rhoi tocynnau am ddim i unrhyw rai o weithwyr y GIG sy’n teithio ar ei lwybrau rhwng ardal Pontypridd a Chaerdydd, gan gynnwys gwasanaethau sy’n mynd heibio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 

First Cymru

Erbyn hyn mae First Cymru yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio AM DDIM ar ein bysiau. Dangoswch eich bathodyn adnabod i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.

 

Goodsir Coaches

Mae Goodsir Coaches yn caniatáu i weithwyr y GIG a gweithwyr cymorth gofal deithio’n rhad ac am ddim.

 

Gwynfor Coaches

O ddydd Llun 30 Mawrth ymlaen, gall gweithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o wasanaethau bws Gwynfor Coaches, dim ond iddynt ddangos cerdyn adnabod dilys gan y GIG.

 

Llew Jones Coaches

Bydd gweithwyr y GIG yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar bob un o wasanaethau Llew Jones Coaches o ddydd Llun 30 Mawrth ymlaen. Er mwyn cael teithio am ddim, dangoswch eich cerdyn staff GIG Cymru i’r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws.

 

Lloyds Coaches

Gall pob un o weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau Lloyds Coaches, dim ond iddynt ddangos cerdyn adnabod gan y GIG.

 

Mid Wales Travel

Gall gweithwyr y GIG deithio am ddim ar wasanaethau Mid Wales Travel drwy ddangos eu bathodyn adnabod gan y GIG pan fyddant yn mynd ar y bws.

 

Morris Travel

Gall gweithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau Morris Travel drwy ddangos eu bathodyn adnabod pan fyddant yn mynd ar y bws.

 

Newport Bus

Mae Newport Bus yn caniatáu i weithwyr y GIG, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân a swyddogion heddlu deithio am ddim ar ei rwydwaith o wasanaethau bws tra bydd y pandemig COVID-19 yn parhau. Dangoswch eich bathodyn adnabod i’r gyrrwr. 

Mae’r cwmni hefyd yn cynnig trafnidiaeth amgen am ddim i weithwyr y GIG a’r gwasanaethau brys sy’n wynebu sefyllfaoedd lle nad yw’r amserlenni presennol yn diwallu eu hanghenion. Mae’r cynnig yn cynnwys:

  • Casglu gweithwyr o Gwmbrân a Chasnewydd (o’u harhosfan bysiau agosaf neu o le diogel)
  • Gollwng gweithwyr yng Nghasnewydd yn unig (Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Sant Gwynllyw, Ysbyty Sant Cadog, gorsafoedd yr heddlu, yr orsaf dân)
  • Darparu gwasanaeth bws mini o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan ddisgwyl y bydd angen casglu a gollwng gweithwyr mewn sawl lle
  • I drefnu trafnidiaeth, anfonwch ebost i nhs-support@newporttransport.co.uk gan nodi eich enw, eich rhif ffôn, eich man casglu, eich man gollwng ac amseroedd eich sifft.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Newport Bus.

 

New Adventure Travel

Mae NAT yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio am ddim. I fod yn gymwys rhaid i weithwyr ddangos cerdyn adnabod dilys gan y GIG, sy’n cynnwys llun, i’r gyrrwr pan fyddant yn mynd ar y bws.

 

Phil Anslow & Sons Coaches

O ddydd Gwener 27 Mawrth ymlaen nes y nodir yn wahanol, mae cwmni Phil Anslow and Sons Coaches yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o’i fysiau. Dangoswch eich cerdyn adnabod staff y GIG i’r gyrrwr er mwyn cael teithio am ddim.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd Stagecoach yn Ne Cymru hefyd yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o’i wasanaethau, ac eithrio gwasanaethau Lloegr, gwasanaethau Megabus a gwasanaethau 40A/B/C a 43/X43 Cyswllt TrawsCymru.

 

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n ôl ac ymlaen i’w gwaith am ddim tan 30 Ebrill, dim ond iddynt ddangos eu cerdyn adnabod gan y GIG.

 

TrawsCymru

Mae gweithwyr y GIG erbyn hyn yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar rwydwaith TrawsCymru® (gwasanaethau T1, T1C, T2, T3, T4, T5, T6, T11, T12, X43, 43 a 460) drwy gydol y dydd saith diwrnod yr wythnos heb unrhyw gyfyngiadau. Dangoswch eich bathodyn adnabod staff y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.

 

 

 

Gwasanaeth Sgwrsio Age Cymru i bobl dros 70 oed

Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth sgwrsio dros y ffôn i bobl dros 70 oed yng Nghymru sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Y gobaith yw y bydd y fenter yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd i bobl hŷn ac yn fodd i ateb ymholiadau syml a chysylltu pobl â gwasanaethau a chymorth lleol tra bydd y coronafeirws yn parhau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn hanfodol i lawer o ddeiliaid y cerdyn teithio rhatach ledled Cymru, oherwydd mae’n eu galluogi i osgoi unigrwydd ac i ymwneud â’u cymuned leol.

Gall unrhyw un dros 70 oed yng Nghymru gofrestru am ddim er mwyn cael galwad ffôn reolaidd, yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan Age Cymru. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ffonio llinell gyngor Age Cymru ar 08000 223 444 neu anfon ebost i’r elusen gan nodi’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Rhowch wybod a ydych dros 70 oed
  • Nodwch a hoffech gael galwad ffôn yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • Unigolyn cyswllt mewn argyfwng – pwy fyddech chi’n hoffi i ni gysylltu â nhw mewn argyfwng?
  • Cyfrinair – bydd aelod o staff Age Cymru yn dweud eich cyfrinair personol chi ar ddechrau pob galwad. Diben hynny yw rhoi tawelwch meddwl i chi, fel eich bod yn gwybod eich bod yn siarad ag aelod o staff Age Cymru.

Ewch i wefan Age Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ychwanegol.

 

 

 

Parcio am ddim yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant

Mae Canolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd yn cynnig lle parcio am ddim i weithwyr y GIG.

I hawlio lle parcio am ddim, pwyswch y botwm cymorth ar y peiriant talu a/neu wrth y rhwystr ymadael. Gallwch aros am hyd at 13 awr ar y tro.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Siopa Dewi Sant.

 

 

 

Parcio am ddim ym meysydd parcio’r NCP neu’r Cyngor yng nghanol dinas Abertawe (ond nid yn Ffordd y Brenin)

Bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio’r NCP neu’r Cyngor yng nghanol dinas Abertawe (ond nid yn Ffordd y Brenin). Mae meysydd parcio Dewi Sant a’r Quadrant, a gaiff eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, ar gau ers 24/3/2020 ac nid yw’r gwasanaethau Parcio a Theithio yn gweithredu chwaith. Mae’r newidiadau hyn wedi’u gwneud er budd gweithwyr allweddol a’r bobl hynny sy’n gorfod ymweld â chanol y ddinas i siopa. Bydd hynny’n helpu i atal pobl rhag ymgasglu ar fysiau neu ar safleoedd meysydd parcio Dewi Sant a’r Quadrant.

 

 

 

Prif Weinidog Cymru yn lansio’r ymgyrch “Gofalu am ein Gilydd”

Mae Prif Weinidog Cymru wedi lansio ymgyrch a fydd yn ceisio cynorthwyo cymunedau a chymdogaethau ledled Cymru drwy gydol y pandemig.

Mae tudalen arbennig wedi’i chreu ar wefan Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cyngor ynghylch hunanynysu, beth y gallwch ei wneud i helpu pobl fregus a sut y gallwch gynorthwyo eich cymuned ehangach yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Bwcabus yn cydlynu’r gwaith o ddosbarthu llythyrau a darluniau gan blant lleol i gartrefi gofal

Mae’r gwasanaeth bws lleol, Bwcabus, wedi bod yn cysylltu ag amryw gartrefi gofal yn ardal Bwcabus. Byddai rheolwyr y cartrefi gofal y mae’r gwasanaeth wedi siarad â nhw wrth eu bodd pe bai’r preswylwyr yn cael llythyr neu ddarlun gan blant sydd gartref ar hyn o bryd.

 

 

Stagecoach yn Ne Cymru yn dangos negeseuon o gefnogaeth i weithwyr y GIG ar fysiau

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cael ei ysbrydoli gan y miloedd o bobl sy’n clapio i’r GIG bob nos Iau am 8pm. Mae’r cwmni wedi penderfynu canmol y gwaith caled y mae gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol yn ei wneud ledled y DU, drwy ddangos nifer o negeseuon ar du blaen ei fysiau.

Yn lle’r neges ‘dim gwasanaeth’ sydd i’w gweld ar sgriniau bysiau, byddwch yn awr yn gweld y negeseuon canlynol:

  • Arbedwch fywydau
  • Arhoswch gartref
  • Peidiwch â theithio os nad oes raid
  • Diolch i weithwyr allweddol
  • Diolch i’r GIG

 

 

NAT Group yn rhannu negeseuon cadarnhaol o gefnogaeth gan deithwyr

Er mwyn cydnabod mesurau diogelwch a gwasanaethau parhaus NAT Group, mae llawer o deithwyr wedi anfon negeseuon o ddiolch a gwerthfawrogiad i’r cwmni yn uniongyrchol ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r negeseuon yn cynnwys geiriau o ddiolch am ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol a’r sawl y mae eu teithiau’n hanfodol, yn ogystal â chanmoliaeth i’r gyrwyr a’r staff.

Mae rhai o’r negeseuon a gafwyd wedi’u troi yn bosteri y mae’r cwmni yn bwriadu eu harddangos yn ei ddepo ac ar ei fysiau yn y dyfodol agos. Gallwch weld un o’r posteri yma.

 

 

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol: darparwr gwasanaeth cludiant cymunedol yn paratoi i gynorthwyo pobl hŷn a bregus yn ystod y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws

Pan sylweddolodd Beverley Mather na allai’r gwasanaeth Galw’r Gyrrwr y mae’n ei reoli weithredu yn ystod y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws, gwnaeth benderfyniad ar unwaith.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae Beverley wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu unrhyw bobl yn ei chymuned leol y mae angen help arnynt. Mae hi a’i thîm o wirfoddolwyr wedi parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl nad oes ganddynt neb arall i droi ato, gan gynnig help sy’n amrywio o ddosbarthu cyflenwadau bwyd hanfodol yn ddiogel i fynd â chŵn am dro a chasglu presgripsiynau. 

Gallwch ddarllen yr erthygl lawn gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol am waith gwych Beverley yma.

 

 

Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno teyrnged ar ffurf enfys i weithwyr allweddol ar ei wasanaethau

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno ei drenau cyntaf sydd â sticeri enfys er mwyn rhoi teyrnged i’r holl weithwyr allweddol eraill sy’n helpu yn y frwydr yn erbyn Covid19.

Mae’r enfys wedi dod i’r amlygrwydd fel symbol o ddiolch i'r holl gweithwyr  allweddol sy'n cynorthwyo'r wlad ar yr adeg anodd hon, a fydd nawr i'w gweld ar ochr trenau TrC.

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon