Newyddion

capacity-tracking-feature-cardiff-bus

Bws Caerdydd yn ychwanegu nodwedd am gapasiti at system ei wefan a’i ap ar gyfer tracio bysiau mewn amser real

01 Gorffennaf 2020

Erbyn hyn, gall y nodwedd sydd ar wefan ac ap Bws Caerdydd ar gyfer tracio bysiau mewn amser real ddweud wrth deithwyr a yw’r bws y maent yn aros amdano’n cynnwys llawer neu ychydig o deithwyr. Caiff y wybodaeth ei chasglu o beiriant tocynnau’r bws ac oddi wrth gwsmeriaid ar y bws, a bydd yn helpu teithwyr i benderfynu ar yr opsiwn gorau ar gyfer eu taith.

Bydd y nodwedd newydd yn dangos gwybodaeth am y bws, er enghraifft beth yw capasiti’r bws, pa fath o fws yw e’ a beth yw ei nodweddion, e.e. a oes ganddo gyfleusterau Wi-fi a phwyntiau gwefru USB.

Ar wefan Bws Caerdydd, gall teithwyr gael gafael ar y wybodaeth hon drwy glicio ar yr eicon bws sydd ar y map ar dudalen pob amserlen.

Os ydych yn defnyddio’r ap ac os ydych wedi dewis llwybr i fod yn un o’ch ffefrynnau, byddwch yn gallu tracio’r bysiau ar y dudalen ‘Explore’. Cliciwch ar fws ar y map, a bydd gwybodaeth am y bws hwnnw’n ymddangos. Pan fyddwch yn gweld y plât cofrestru a’r math o gerbyd, sweipiwch i fyny i weld rhagor o wybodaeth gan gynnwys y manylion am gapasiti.  

Os bydd cwsmeriaid yn teithio ar fws y mae’r ap yn dangos bod ei gapasiti presennol yn anhysbys, gallant helpu teithwyr eraill drwy ddiweddaru’r wybodaeth eu hunain. Drwy glicio ar y cyfleuster ar gyfer rhoi gwybod i deithwyr eraill, gall cwsmeriaid nodi a yw’r arhosfan bysiau’n brysur, yn eithaf prysur neu’n dawel fel y gall teithwyr eraill benderfynu ar yr amser gorau i deithio. Dim ond drwy wefan Bws Caerdydd y mae’r nodwedd hon ar gael ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y wybodaeth: Bws Caerdydd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon