-
Beth yw gwasanaethau Parcio a Theithio?
-
Pam defnyddio gwasanaethau Parcio a Theithio?
-
Ble mae cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau Parcio a Theithio?
Beth yw gwasanaethau Parcio a Theithio?
Mae gwasanaethau Parcio a Theithio yn ffordd hawdd a chyfleus o deithio heb orfod poeni am yrru neu barcio yng nghanol trefi. Gallwch barcio eich car yn y safle Parcio a Theithio sydd fwyaf cyfleus i chi, neidio ar y bws a chyrraedd pen eich taith yn ddidrafferth.
Pam defnyddio gwasanaethau Parcio a Theithio?
- Mae gwasanaethau Parcio a Theithio yn helpu i leihau tagfeydd traffig yng nghanol trefi a dinasoedd prysur ac ar hyd y ffyrdd sy’n arwain i’r mannau hynny.
- Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau Parcio a Theithio yn costio’r un faint â gwasanaeth bws lleol. Gall y gost fod dipyn yn is na chost parcio yng nghanol tref neu ddinas brysur.
- Trwy leihau eich defnydd o’r car a gwneud rhan o’ch taith ar fws, rydych yn lleihau eich allyriadau carbon ac yn helpu i warchod yr amgylchedd rhag llygredd.
- Mae’r amser y byddwch yn ei arbed trwy deithio ar wasanaeth Parcio a Theithio yn lle eistedd mewn tagfeydd traffig yn golygu y bydd gennych fwy o amser i grwydro a gwneud yn fawr o’ch diwrnod.
Ble mae cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau Parcio a Theithio?
Gan ddefnyddio ein Map Teithio pwrpasol, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am wasanaethau Parcio a Theithio yng Nghymru. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:
- Mynd i Map Teithio Traveline Cymru
- Chwilio am y lleoliad yr ydych am deithio ynddo
- Clicio ar yr eiconau ‘Parcio a Theithio’ sy’n ymddangos yn yr ardal honno.
Yna, gallwch gael gafael ar wybodaeth am amserlenni, prisiau tocynnau, y cyfleusterau sydd ar gael ar y safle Parcio a Theithio a gerllaw, a llawer mwy.