Problemau teithio

Ni chaiff unrhyw gerbydau ddefnyddio’r rhannau canlynol o’r ffyrdd canlynol:

1. Maxwell Street, o’r gyffordd â Station Road i’r gyffordd â Cross Street

Ffordd amgen – ewch ar hyd Station Road, High Street a Cross Road

2. Maxwell Street, o’r gyffordd â Brook Street i’r gyffordd â Cross Street

Ffordd amgen – ewch ar hyd Brook Street, High Street a Cross Street

3. Brook Street, o’r gyffordd â Maxwell Street i’r gyffordd â High Street

Ffordd amgen – ewch ar hyd Maxwell Street, Cross Street, Fountain Street, New Street, Oakland Terrace, Dyffryn Street a High Street

Bydd y rhannau uchod o ffyrdd ar gau rhwng 1 Hydref 2018 a 12 Hydref 2018 neu bryd bynnag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Bydd y rhannau uchod o ffyrdd yn cael eu cau fesul un.

Os oes angen, bydd y rhannau uchod o ffyrdd yn cael eu cau eto am gyfnod o 12 wythnos a fydd yn cychwyn ar 14 Ionawr 2019, er mwyn gweithio ar garthffos newydd.

Bydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerddwyr a phreswylwyr ond nid ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys.

Yn ôl