Problemau teithio

O ddydd Llun 1 Hydref ymlaen, bydd system unffordd dros dro ar waith ar yr A548 Chester Street yn y Fflint am hyd at 8 wythnos er mwyn hwyluso’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd gerbydau.

Bydd hynny’n achosi problemau ar yr A548 Chester Street (i gyfeiriad y gorllewin) i gyfeiriad Bagillt/ Treffynnon/ Prestatyn.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau sydd wrth ymyl Gwesty’r Swan a’r tu allan i Siop Decawê’r Raj ar yr A548 Chester Street tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo ar y ffordd. 

Yn ôl