Problemau teithio

Bydd y ffordd ar gau o Wrexham Road ar gylchfan y B5444 Ffordd Osgoi’r Wyddgrug i Gas Lane/Brook Street o 8:55am ymlaen, i’r cyfeiriad hwnnw’n unig. Bydd modd i breswylwyr gael mynediad o hyd os bydd y ffordd yn glir ac os bydd yn ddiogel iddynt gael mynediad.

Bydd yr holl ffyrdd eraill sydd ar lwybr y rasys yn parhau ar agor i draffig. Caiff y rhedwyr eu cynghori i ddisgwyl y bydd yna geir, gwrando ar gyfarwyddiadau’r stiwardiaid wrth ymyl croesfannau ac aros ar y palmentydd. Cyfrifoldeb y rhedwyr fydd stopio ar gyfer car wrth nesáu at gyffordd.

Ffynhonnell y wybodaeth: Rhedeg Cymru 

Yn ôl