Problemau teithio

Bydd y tywydd garw presennol yn achosi problemau teithio difrifol drwy gydol y dydd a thros y penwythnos.

Mae rhybudd tywydd MELYN ynghylch glaw mewn grym ar gyfer Cymru. Bydd y rhybudd hwn mewn grym o 06:00 ddydd Gwener 12 Hydref i 18:00 ddydd Sadwrn 13 Hydref.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio, dilynwch ein ffrwd Twitter @TravelineCymru

 

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf hefyd gan weithredwyr trafnidiaeth penodol ar dudalennau eu cyfrifon Twitter nhw:

 

Trenau:

Arriva Trains Wales: @ArrivaTW

National Rail: @nationalrailenq

Great Western Railway: @GWRHelp

Bysiau:

First Cymru Buses: @FirstCymru

Stagecoach Wales: @StagecoachWales

Newport Bus: @NewportBus

Cardiff Bus: @Cardiffbus

 

Fel arall, ffoniwch ein canolfan alwadau yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 i gael mwy o gymorth.

First Cymru:

Ni fydd gwasanaeth rhif 460 o Gaerfyrddin i Aberteifi yn gweithredu heddiw (15/10/2018) oherwydd y tywydd garw dros y penwythnos.

Trafnidiaeth Cymru:

Mae llifogydd difrifol wedi achosi difrod i’r trac yn ardal Llandeilo. Ni fydd unrhyw drenau’n gallu mynd ar hyd y llwybr hwn tan ddydd Mawrth 16 Hydref fan cynharaf. Bydd bysiau’n gweithredu yn lle’r trenau heddiw.

Ni fydd unrhyw drenau’n gweithredu rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno oherwydd bod angen atgyweirio nifer fwy na’r arfer o drenau. Bydd bysiau’n gweithredu yn lle trenau ar hyd y llwybr hwn.

Trenau Arriva Cymru: https://www.journeycheck.com/arrivatrainswales/

Rhagwelir tywydd garw ar gyfer dydd Gwener 12 Hydref a dydd Sadwrn 13 Hydref.

Mae disgwyl i dywydd garw effeithio ar Gymru a’r Gororau drwy gydol y penwythnos.  Rhagwelir y bydd yna lifogydd difrifol a achosir gan law eithafol, a llifogydd ar hyd yr arfordir.  O ganlyniad, bydd amserlen ddiwygiedig yn gweithredu fel a ganlyn:


Abertawe - Caerfyrddin
Ni fydd trenau’n teithio rhwng Abertawe a Chaerfyrddin rhwng 0700 ac 1100 ac ar ôl 1900 oherwydd rhagwelir y bydd llifogydd ar hyd yr arfordir, a achosir gan wyntoedd cryfion sy’n cyd-daro â llanw uchel.  Bydd nifer fach iawn o fysiau’n gweithredu yn lle’r trenau, a chynghorir cwsmeriaid i osgoi teithio.  Mae rhestr o newidiadau i wasanaethau ar gyfer dydd Gwener 12 Hydref i’w gweld yma. Mae rhestr lawn o newidiadau i wasanaethau ar gyfer dydd Sadwrn 13 Hydref i’w gweld yma.

Aberystwyth - Machynlleth - Y Drenewydd - Amwythig
Ni fydd unrhyw drenau’n teithio i’r naill gyfeiriad na’r llall rhwng Machynlleth a’r Drenewydd ar ôl 1000 tan ddechrau fore dydd Llun.  Mae rhestr lawn o newidiadau i wasanaethau ar gyfer dydd Gwener 12 Hydref i’w gweld yma ac mae amserlen y bysiau a fydd yn rhedeg yn lle’r trenau i’w gweld yma.  Mae rhestr lawn o’r newidiadau i wasanaethau ar gyfer dydd Sadwrn 13 Hydref i’w gweld yma ac mae amserlen y bysiau a fydd yn rhedeg yn lle’r trenau i’w gweld yma.

Machynlleth - Tywyn - Abermo - Harlech - Pwllheli
Bydd gwasanaethau 08:52 Machynlleth - Pwllheli, 10:55 Machynlleth - Pwllheli, 09:34 Pwllheli - Machynlleth ac 11:37 Pwllheli - Machynlleth yn cael eu canslo. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle’r trenau, ac mae’r amserlen i’w gweld yma.

Blaenau Ffestiniog – Cyffordd Llandudno
Ni fydd unrhyw drenau’n teithio rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ddydd Gwener a dydd Sadwrn.  Mae amserlen y bysiau a fydd yn rhedeg yn lle’r trenau i’w gweld yma.

Dylai cwsmeriaid nodi y bydd teithio ar hyd y ffyrdd yn dibynnu ar amodau’r ffyrdd yn lleol ac y gallai rhai ffyrdd fod ar gau.  At hynny, mae’n bosibl y bydd mwy o lwybrau’n cael eu cau wrth i’r storm fynd rhagddi.  Bydd cwsmeriaid sydd â thocynnau i deithio ddydd Gwener 12 Hydref a dydd Sadwrn 13 Hydref yn gallu defnyddio eu tocynnau ddydd Sul 14 Hydref a dydd Llun 15 Hydref.

 

Mae’r ffaith bod y wybodaeth sydd ar gael yn newid yn gyflym yn golygu nad oes modd i ni ddarparu’r wybodaeth yn Gymraeg bob amser. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn ôl