Problemau teithio

Bydd y rhan ganlynol o ffordd ar gau rhwng 06:00 ar 24/10/2018 a 20:00 ar 25/10/2018:

Stryd Wellington, o'i chyffordd â Stryd y Bont, tua chyfeiriad y de ddwyrain am 500 metr.

Mae angen cau'r ffyrdd yma fel bod modd ffilmio arnyn nhw neu yn eu hymyl.

 Mae disgwyl bydd y ffordd ar gau o 6:00 am ar 24 Hydref 2018 i 8:00 pm ar 25 Hydref 2018 neu hyd nes y bydd y ffilmio wedi'i gwblhau.

 Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Mae llwybr arall i gerbydau fel a ganlyn:

  • Mae cyfyngiad uchder o 12' 00" o dan bont y rheilffordd rhwng cylchfannau Aber-nant a'r Ynys. Y llwybr i'w ddilyn yw: O ochr de-ddwyreinol y ffordd sydd ar gau, ewch trwy Stryd Wellington, Cylchfan Aber-nant, Heol Cwm-bach, Heol y Gamlas, Cylchfan Cwm-bach, Gasworks (Asda), A4059, Cylchfan Tinney's, Cylchfan yr Ynys, a Ffordd Osgoi Aberdâr (A4059) a Stryd Wellington i ochr ogleddorllewinol y ffordd sydd ar gau. Os ydych chi'n teithio o'r cyfeiriad arall, bydd eisiau dilyn y cyfarwyddiadau uchod yn y drefn wrthol. 
  • Ar gyfer cerbydau dros 12'00" o uchder, llwybr y gwyriad fydd y canlynol: O ochr de-ddwyreiniol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Wellington Street, Cylchfan Aber-nant, Cylchfan yr Ynys a ffordd osgoi Aberdâr (A4059) i ochr ogledd-orllewinol y ffordd sydd ar gau. Os ydych chi'n teithio o'r cyfeiriad arall, bydd eisiau dilyn y cyfarwyddiadau uchod ond i'r gwrthwyneb.
Yn ôl