Ni fydd mynediad ar gael ar hyd yr A4058 Rhondda Road o bwynt sydd 157 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Graigwen Road, am 15 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.
Mae’n rhaid cau’r rhan hon o’r ffordd er mwyn hwyluso’r gwaith canlynol:
- Cloddio twll profi, ac ymchwilio
- Adeiladu prif bibell ddŵr newydd.
Disgwylir y bydd y rhan hon o’r ffordd ar gau yn ystod y diwrnodau a’r amseroedd canlynol neu nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau:
- rhwng 8:00pm nos Sadwrn 27 Hydref 2018 a 5:00am ddydd Llun 29 Hydref 2018
- rhwng 8:00pm nos Sadwrn 10 Tachwedd 2018 a 5:00am ddydd Llun 12 Tachwedd 2018.
Llwybr amgen:
O ochr ogleddol y rhan o’r ffordd a fydd ar gau, ewch ar hyd Mill Street i ochr ddeheuol y rhan o’r ffordd a fydd ar gau.
NI fydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys
Bydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerddwyr