Effaith y Gorchymyn fydd:-
1. Cau Ffordd Dros Dro – Y Stryd Fawr, o'i chyffordd â Rhiw’r Mynach i ffin ogleddol Rhif 27b Y Stryd Fawr.
2. Trafnidiaeth unffordd dros dro – Stryd Bute, i gyfeiriad de-ddwyreiniol o'i chyffordd â Sgwâr Victoria i'w chyffordd â Cross Street.
Bydd Gorchymyn Traffig Unffordd Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr (Sgwâr Victoria, Aberdâr) (1996) yn cael ei atal i ganiatáu traffig dwy ffordd yn Sgwâr Victoria.
Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.
Mae disgwyl bydd y ffordd ar gau rhwng 7:30am a 4:30pm ar 18 a 25 Tachwedd neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Mae llwybr arall i gerbydau fel a ganlyn:
O ochr ddeheuol y rhan sydd wedi'i chau yn y Stryd Fawr, ewch ymlaen trwy'r Stryd Fawr, Sgwâr Fictoria, Stryd Caerdydd, Cylchfan Tinney, Ffordd Osgoi Aberdâr (yr A4059), Llwybr yr A4233, Cylchfan Y Gadlys a'r Stryd Fawr i ochr ogleddol y rhan sydd wedi'i chau.