Problemau teithio

Ym mis Tachwedd bydd rhai cau ffyrdd fin nos i wahanol adrannau o gylchfan Pwll-y-pant a fydd yn arwain at rai dargyfeiriadau ar gyfer bysiau.

 

Bydd y teithiau hyn yn cael eu heffeithio ar y dyddiadau hyn:

  • Dydd Gwener 9 Tachwedd 2018
  • Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018
  • Dydd Llun 19 Tachwedd 2018
  • Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018

Llwybr 26 Caerdydd - Caerffili - Ystrad Mynach - Coed Duon Tuag at Gaerdydd bydd yr holl deithiau'n gweithredu fel arfer ond ni fydd yn gwasanaethu safleoedd bysiau Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy ac Asda. Taith 1800 o Gaerdydd fydd y bws olaf i weithredu ei lwybr arferol. Ar ôl hyn, bydd yr holl deithiau tuag at Goed Duon yn gweithredu yn arferol cyn belled â Cyfnewifa Caerffili yna'n dargyfeirio i'r A470 gan ailddechrau'r llwybr arferol yn Ystrad Mynach (Canolfan Dawnsio). Ni fydd bysiau yn rhedeg rhwng Pwll-y-pant (Trem-y-mynydd) ac Ysbyty Ystrad Fawr.

 

Llwybr 50 Casnewydd - Caerffili - Ystrad Mynach - Bargod Tuag at Gasnewydd bydd yr holl deithiau'n gweithredu fel arfer nd ni fydd yn gwasanaethu safleoedd bysiau Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy ac Asda. Taith 1815 o Gasnewydd fydd y bws olaf i weithredu ei lwybr arferol. Ar ôl hyn, bydd yr holl deithiau tuag at Fargod yn gweithredu yn arferol cyn belled â Cyfnewidfa Caerffili yna'n dargyfeirio i'r A470 gan ailddechrau'r llwybr arferol yn Ystrad Mynach (Royal Oak). Ni fydd bysiau yn rhedeg rhwng Pwll-y-pant (Trem-y-mynydd) ac Ysbyty Ystrad Fawr.

 

Llwybr C16 Caerffili - Ystrad Mynach - Nelson Taith 1830 o Nelson a thaith 1905 o Gaerffili fydd y bysiau olaf i weithredu eu llwybr arferol. Bydd yr holl deithiau ar ôl hyn yn gweithredu rhwng Llanbradach (Coed y Brain) a Nelson yn unig.

 

 

Bydd y teithiau hyn yn cael eu heffeithio ar y dyddiadau hyn:

  • Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018
  • Dydd Iau 8 Tachwedd 2018
  • Dydd Llun 12 Tachwedd 2018
  • Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018
  • Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018
  • Dydd Iau 22 Tachwedd 2018

Llwybr 26 Caerdydd - Caerffili - Ystrad Mynach - Coed Duon Tuag at Goed Duon bydd yr holl deithiau'n gweithredu fel arfer ond efallai bydd oedi. Taith 1835 o Goed Duon fydd y bws olaf i weithredu ei lwybr arferol. Ar ôl hyn bydd yr holl deithiau tuag at Goed Duon yn gweithredu yn arferol cyn belled ag Ystrad Mynach (Y Ganolfan Ddawns) yna'n dargyfeirio i'r A470 gan ail-adrodd y llwybr arferol yng Nghaerffili (Morrisons). Ni fydd bysiau yn rhedeg rhwng Ysbyty Ystrad Fawr a Chaerffili (Piccadilly).

 

Llwybr 50 Casnewydd - Caerffili - Ystrad Mynach - Bargod Tuag at Fargod bydd yr holl deithiau'n gweithredu fel arfer ond efallai bydd oedi. Yr 1811 o Fargod fydd y bws olaf i weithredu ei lwybr arferol. Ar ôl hyn bydd yr holl deithiau tuag at Gasnewydd yn gweithredu yn arferol cyn belled ag Ystrad Mynach (Y Royal Oak) yna'n dargyfeirio i'r A470 gan ailadrodd y llwybr arferol yng Nghaerffili (Morrisons). Ni fydd bysiau yn rhedeg rhwng Ysbyty Ystrad Fawr a Chaerffili (Piccadilly).

 

Llwybr C16 Caerffili - Ystrad Mynach - Nelson Taith 1830 o Nelson a thaith 1905 o Gaerffili fydd y bysiau olaf i weithredu eu llwybr arferol. Bydd yr holl deithiau ar ôl hyn yn gweithredu rhwng Llanbradach (Coed y Brain) a Nelson yn unig.

Yn ôl